Beth yw astudiaethau TU ac ar gyfer pwy?

Mae ein cyrsiau yn rhoi'r sgiliau, y wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen ar gynrychiolwyr undeb i barhau i wneud gwaith gwych. Ar ôl cwblhau ein cyrsiau yn llwyddiannus, bydd cynrychiolwyr yn cael credydau addysgol a gydnabyddir yn genedlaethol.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r prif undebau llafur yng Nghymru i gyflwyno eu rhaglenni craidd i gynrychiolwyr presennol a newydd. Mae’n gyfle gwych nid yn unig i ennill yr holl sgiliau a'r gwybodaeth sydd eu hangen i fod yn gynrychiolwyr undeb effeithiol, ond hefyd yn gyfle i gwrdd â chynrychiolwyr eraill a thiwtoriaid a swyddogion profiadol.

Gweithio gydag Undebau:

  • WTUC
  • Unison
  • Unite
  • CWU
  • PCS
  • GMB

Yn y flwyddyn 2020-21 yn unig, gwnaeth dros 400 o ddysgwyr gymryd rhan mewn dysgu undeb.

Tysteb: "Roeddwn eisiau dysgu mwy am iechyd a diogelwch yn y gwaith a sut y gall bod yn gynrychiolydd Iechyd a Diogelwch Unsain wella amodau yn y gweithle i aelodau. Rwy'n teimlo bod y cwrs wedi cyflawni fy nodau."

 

 

TUC Cymru | Addysg Oedolion Cymru
Cynrychiolydd Undeb - rhaglen ddysgu 2024
Ariennir i Gynrychiolwyr Undebau Cymru

Teitl CwrsDyddiad cychwynPatrwm
Cynrychiolydd Undeb Rhan 111 Ebrill 202410 Diwrnod
Cynrychiolydd Undeb Rhan 2 (yn flaenorol Tystysgrif mewn Cyfraith Cyflogaeth)11 Ebrill 202410 Diwrnod
Cynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch Rhan 18 Ebrill 202410 Diwrnod
Cynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch Rhan 29 Ebrill 202410 Diwrnod
Cynrychiolwyr Dysgu Undeb Rhan 13 Mai 20244 Diwrnod
Cynrychiolwyr Dysgu Undeb Rhan 210 Ebrill 20244 Diwrnod
Grievance & Disciplinary15 Mai 20244 Diwrnod

I dderbyn rhagor o wybodaeth a ffurflen gais cwrs, anfonwch e-bost at nicholas.paul@addysgoedolion.cymru

 

Gweld yr holl gyrsiau astudiaethau undeb llafur

 - 
Arabic
 - 
ar
Bengali
 - 
bn
German
 - 
de
English
 - 
en
French
 - 
fr
Hindi
 - 
hi
Indonesian
 - 
id
Portuguese
 - 
pt
Russian
 - 
ru
Spanish
 - 
es