Yn sgil cymorth WEA YMCA CC Cymru, daw… Gwyl Ffilm SwanComm

17-Mehefin-2016
Rhannu

Ddydd Sadwrn, 9 Gorffennaf, rhwng 10:00 ac 16:30, cynhelir G?�yl Ffilm gyntaf SwanComm, a fydd yn cael ei rhedeg yn gyfan gwbl gan grwpiau lleol o wneuthurwyr ffilmiau amatur – gan gynnwys y rheiny a ddysgodd ar gyrsiau gwneud ffilmiau a chynllunio digwyddiadau, â chymorth WEA YMCA CC Cymru.

Ers Awst 2015, mae dros 100 o drigolion Cymunedau yn Gyntaf wedi cofrestru i gymryd rhan mewn gweithdai ffilm achrededig gyda’r gwneuthurwr ffilm lleol, David Marchant, i’w galluogi i wneud 11 ffilm fer. Caiff SwanComm ei ddylunio a’i gyflwyno gan gyfranogwyr y gweithdai hyn, a’i gynhyrchu mewn partneriaeth â LOCWS International, Cymunedau yn Gyntaf, a WEA YMCA CC CYMRU, trwy SCLP.

Mae’r ?�yl yn darparu llwyfan i wneuthurwyr ffilm newydd yn bennaf, i rannu beth maen nhw wedi’i gynhyrchu, ac mae hefyd yn bwriadu cynyddu ymdeimlad cadarnhaol ein cymuned leol trwy ddarparu digwyddiad boddhaol, rhad ac am ddim.  

Os ydych yn Abertawe, beth am fynd i wylio ffrwyth llafur ein dysgwyr? Mae’n datblygu i fod yn sioe wirioneddol!

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Facebook a gwefan SwanComm.

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth
 - 
Arabic
 - 
ar
Bengali
 - 
bn
German
 - 
de
English
 - 
en
French
 - 
fr
Hindi
 - 
hi
Indonesian
 - 
id
Portuguese
 - 
pt
Russian
 - 
ru
Spanish
 - 
es