Phil - ein enillydd Gwobr Margaret Jones
Gweld mwy
Ni yw’r Coleg Cymunedol Cenedlaethol a’r Mudiad Democrataidd dros addysg oedolion cymunedol yng Nghymru, gan hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol a datblygu sgiliau. Rydym yn darparu dysgu o’r radd flaenaf trwy gyfrwng dull cydweithredol, ym mhob cwr o Gymru. Rydym yn darparu mynediad at addysg o lefel cyn mynediad hyd at gymwysterau ar lefel pedwar.
Mae tiwtoriaid Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn arbenigwyr yn eu meysydd ac maent wedi ymrwymo i’ch helpu chi i ddysgu a chreu cyfleoedd.
Rydym ni’n cynnig cyrsiau i fusnesau o bob maint - mae gennym ni brofiad o hyfforddi staff cwmnïau mawr y byd manwerthu yn ogystal â BBaCH llai eu maint. Beth bynnag fo anghenion hyfforddiant eich busnes, dewch i’n holi ni.
“Cafodd y sesiwn ei chyflwyno’n rhagorol gan y tiwtor, fe wnaeth hi ymgysylltu yn dda iawn â ni. Roedd yn ddifyr ac yn addysgol.”
“Y cwrs hwn oedd y gorau i mi! Credaf fod y cwrs hwn yn fy helpu i wella fy Saesneg, a fy mherthnasoedd â chydweithwyr yn y gweithle, oherwydd rwyf i bellach yn gallu eu deall a sgwrsio â hwy.”
“Roedd cael dosbarth bychan yn dda oherwydd cawsom ni’r sylw oedd yn ofynnol i allu dysgu a symud ymlaen i’r cam nesaf.”