Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Ni yw’r Coleg Cymunedol Cenedlaethol a'r Mudiad Democrataidd dros addysg oedolion cymunedol yng Nghymru, gan hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol a datblygu sgiliau. Rydym yn darparu dysgu o’r radd flaenaf trwy gyfrwng dull cydweithredol, ym mhob cwr o Gymru. Darparwn gyfleoedd at addysg o Lefel Cyn Mynediad hyd at gymwysterau ar Lefel pedwar.
Addysg ar draws Cymru

Rydym ni’n credu mewn pobl
Beth bynnag fo’ch oedran, mae dysgu yn hanfodol mewn bywyd. Rydym ni’n credu mewn darparu sgiliau a chymwysterau ychwanegol i oedolion sy’n ddysgwyr, a chynnig dysgu hygyrch er mwyn gwella eu bywydau. Rydym ni’n bodoli er eich budd chi, ac fe wnawn ni gydweithio â chi i addysgu rhywbeth newydd i chi.
Dysgu gweithredol ym mhob cwr o Gymru
Rydym ni’n sefydliad aelodaeth a gall ein dysgwyr gyfrannu’n weithgar at y broses o gynllunio a threfnu eu dysgu. Mae ein dull o lywodraethu yn seiliedig ar gynrychiolwyr etholedig, gan gynnwys dysgwyr, ac rydym ni’n ceisio bod yn llais ar ran bob oedolyn sy’n dysgu yng Nghymru.

Tiwtoriaid Ymroddgar
Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn cynnig cyfleoedd i ddysgu gyda thiwtoriaid gwych. Maent yn arbenigwyr yn eu meysydd ac maent wedi ymrwymo i’ch helpu i ddysgu a chreu cyfleoedd. Bydd ein tiwtoriaid yn sicrhau bod eu cyrsiau yn groesawgar i bob dysgwr, beth bynnag fo’u profiad.
Darparu dysgu cynhwysol i chi
Rydym ni’n cynnig arlwy addysgol eang ag ymroddiad i fod yn gynhwysol, cynnig profiadau diwylliannol cyfoethog, cynnal iechyd a diogelwch a sicrhau cyfartaledd. Y bwriad yw gwella cyfiawnder cymdeithasol a chyfranogiad cymunedau, ac ynghyd â hynny, rydym yn cynnig addysg a hyfforddiant â ffocws penodol iawn ar gyfer cyflogadwyedd, mentergarwch a datblygu sgiliau...dyma sut rydym ni’n wahanol.

Creu cyfeillgarwch
Byddwch yn gallu dod i adnabod pobl o anian â diddordebau tebyg, a gallwch chi ddatblygu gyda’ch gilydd. Sefydlu perthnasoedd newydd i gynorthwyo i hybu llesiant a chyfranogiad mewn cymunedau.
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu’n aelod – beth bynnag y dymunwch ei wneud, byddem wrth ein bodd eich bod yn rhan o’n gwaith.
Cysylltwch â ni