Ein Cyngor
Rheolir Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales gan Gyngor o 20 person – 12 llywodraethwr wedi’u hethol a 8 wedi’u hapwyntio. Daw’r sawl a etholwyd o blith ein haelodau, dysgwyr a staff. Rôl y Cyngor yw cynnig arweiniad cyffredinol ac archwiliad, wrth sicrhau bod y mudiad yn cwrdd â’i genhadaeth a’i bwrpas gan gadw at ei egwyddorion a’i werthoedd, ac ar yr un pryd yn glynu wrth amodau’r cyrff sydd yn ei ariannu.
Ar gyfer cofnodion cyfarfodydd y Cyngor (gan gynnwys rhai ein corff blaenorol WEA YMCA CC Cymru), edrychwch yma.
Mae gan y Cyngor pwyllgorau ble mae’n dirprwyo rhan o’i gyfrifoldebau – ar brofiad y dysgwyr, archwilio, cyllid ac adnoddau staffio, a chwilio am lywodraethwyr y dyfodol. Mae yna hefyd grwpiau sydd yn cynnwys ein llywodraethwyr, ac sydd yn gyfrifol am: yr iaith Gymraeg a Dwyieithrwydd; Diogelu, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth; Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd; ac Ymgyrchu, Aelodaeth a Chyfathrebu.
Mae’r rhain yn penderfynu ar bethau penodol ac yn cyflawni argymhellion i’r Cyngor ar ein cyfeiriad strategol a pholisïau. Maent yn ceisio sicrhau fod llais y dysgwyr yn ganolog, ein bod yn cwrdd ein targedau, bod Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn ariannol iach ac yn cydymffurfio gyda rheoliadau cyfreithiol a chyllidol, a bod safbwyntiau aelodaeth ehangach y mudiad yn cael eu hadlewyrchu yn ein gwaith.
Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales - Aelodau'r Cyngor

Swydd Wag
x
x

Swydd Wag
x
x
Am Ragor o Wybodaeth
Os hoffech chi wybod mwy am ein Cyngor, siaradwch â ni.
Cyfeiriad
Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
7, Iard y Cowper, Ffordd Curran
Caerdydd CF10 5NB
Ffôn
03300 580845
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, tiwtor, neu bartner – beth bynnag y dymunwch chi! Byddem ni wrth ein bodd pe byddech chi’n rhan o’n gwaith.
Cysylltwch â ni