Aelod o'r Cyngor - Caroline Davies
Mae fy nghefndir proffesiynol mewn Addysg, Adnoddau Dynol a Hyfforddiant Proffesiynol. Fel dysgwr gydol oes o fri, rwyf yn angerddol dros hybu cydraddoldeb a mynediad i ddysgu, ac yn frwd am helpu eraill gorchfygu rhwystrau i addysg a gwaith.
Gweithiaf ar hyn o bryd gyda Chyngor Caerdydd, yn arwain ac yn rheoli Cynllun Prentisiaid a Hyfforddedigion Corfforaethol y Cyngor, Addysg yn Seiliedig ar Waith, Ymwneud gyda Chyflogwyr a Chynlluniau Profiad Gwaith - y cyfan wedi ei anelu at greu cyflogaeth a ffyrdd i ddatblygu, wrth gefnogi pobl ifanc i ddarganfod gyrfaoedd tu fewn y Cyngor.
Ar yr un pryd, rwyf yn Hyfforddwraig Safle Gwaith a Gweithredol ac yn Ymarferydd Gwellhad Parhaus (LEAN) ble’r ydwyf wedi cefnogi mudiadau cyhoeddus, preifat ac o’r trydydd sector i reoli a darparu newid. Cyn hyn, dysgais mewn Addysg Gymunedol, Bellach ac Uwch am nifer o flynyddoedd gan hefyd weithio yn y Sector Tai Cymdeithasol gan gynnig rhaglenni hyfforddi wedi eu teilwra fel Ymgynghorydd Hyfforddiant hunangyflogedig.
Rwyf hefyd yn Gynrychiolydd Addysg Undebau Llafur, cynghorwraig i’r rhaglen Cynghori Miliwn, ac Aelod Siartredig o’r CIPD a’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.
Am Ragor o Wybodaeth
Os hoffech chi wybod mwy am ein Cyngor, siaradwch â ni.
Cyfeiriad
Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
7, Lard y Cowper, Ffordd Curran
Caerdydd CF10 5NB
Ffôn
03300 580845
Ebost
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu’n aelod – beth bynnag y dymunwch ei wneud, byddem wrth ein bodd eich bod yn rhan o’n gwaith.
Cysylltwch â ni