Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Rydym yn fudiad addysg oedolion gwirfoddol ac annibynnol sy’n ymrwymo i ehangu cyfranogiad, hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol a datblygu sgiliau. Rydym ni’n darparu dysgu o’r radd flaenaf trwy gyfrwng dull cydweithredol, ym mhob cwr i Gymru. Rydym ni’n darparu mynediad at addysg o ddysgu ar Lefel Cyn-mynediad i gymwysterau ar Lefel Pedwar.
Addysg ar draws Cymru

Rydym ni’n credu mewn pobl
Beth bynnag fo’ch oedran, mae dysgu yn hanfodol mewn bywyd. Rydym ni’n credu mewn darparu sgiliau a chymwysterau ychwanegol i oedolion sy’n ddysgwyr, a chynnig dysgu hygyrch er mwyn gwella eu bywydau. Rydym ni’n bodoli er eich budd chi, ac fe wnawn ni gydweithio â chi i addysgu rhywbeth newydd i chi.
Dysgu gweithredol ym mhob cwr o Gymru
Rydym ni’n sefydliad aelodaeth a gall ein dysgwyr gyfrannu’n weithgar at y broses o gynllunio a threfnu eu dysgu. Mae ein dull o lywodraethu yn seiliedig ar gynrychiolwyr etholedig, gan gynnwys dysgwyr, ac rydym ni’n ceisio bod yn llais ar ran bob oedolyn sy’n dysgu yng Nghymru.

Tiwtoriaid Ymroddgar
Rydyn ni'n cynnig cyfleoedd i ddysgu gyda thiwtoriaid gwych. Maent yn arbenigwyr yn eu meysydd ac maent wedi ymrwymo i’ch helpu chi i ddysgu a chreu cyfleoedd. Bydd ein tiwtoriaid yn sicrhau bod eu cyrsiau yn groesawgar i bob dysgwr, beth bynnag fo’u profiad.
Darparu dysgu cynhwysol i chi
Rydym ni’n cynnig arlwyo addysgol eang ag ymroddiad i fod yn gynhwysol, cynnig profiadau diwylliannol cyfoethog, cynnal iechyd a diogelwch a sicrhau cyfartaledd, sy’n gwella cyfiawnder cymdeithasol a chyfranogiad cymunedau, ac ynghyd â hynny, rydym ni’n cynnig addysg a hyfforddiant â ffocws penodol iawn ar gyfer cyflogadwyedd, mentergarwch a datblygu sgiliau...a sut rydym ni’n wahanol.

Creu cyfeillgarwch
Byddwch chi’n gallu dod i adnabod pobl o anian debyg sydd â diddordebau tebyg, a gallwch chi ddatblygu gyda’ch gilydd. Sefydlu perthnasoedd newydd i gynorthwyo i hybu llesiant a chyfranogiad mewn cymunedau.
Adolygiadau o gyrsiau
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, tiwtor, neu bartner – beth bynnag y dymunwch chi! Byddem ni wrth ein bodd pe byddech chi’n rhan o’n gwaith.
Cysylltwch â ni