Cyrsiau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (SSIE neu ESOL)

Ydych chi'n chwilio am gwrs SSIE (ESOL)?

Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf a hoffech chi ddysgu neu wella'ch sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu, yna gallai cwrs SSIE (ESOL) fod yn addas i chi.

Rydym yn darparu dosbarthiadau SSIE (ESOL) achrededig yn eich cymuned leol mewn amgylchedd dysgu cyfeillgar a chefnogol.

adult learning wales

 

REACH_Logo

Cyrsiau ESOL Reach

Os hoffech chi ymuno ag unrhyw un o'n dosbarthiadau yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe neu Wrecsam, mae angen i chi gwblhau asesiad cychwynnol mewn Hwb REACH +.

Ariennir prosiect Integreiddio Ail-gychwyn REACH gan Lywodraeth Cymru ac mae yno i wasanaethu pawb yng Nghymru sydd eisiau dysgu SSIE. (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill).

Mae Hybiau yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam
Mae canolfannau REACH + yn darparu un pwynt cyswllt canolog i unrhyw un sy'n dymuno cyrchu SSIE yn y dinasoedd hyn. Rydym yn asesu pob person ac yn cyfeirio at y cwrs cywir ac yn cefnogi mor gyflym â hawdd â phosibl.

Cysylltwch ag aelod o'n tîm, a fydd yn gallu rhoi gwybodaeth i chi ar sut i archebu asesiad yn un o'r Hybiau hyn:

 

Sgiliau iaith

Mae'r cwrs ESOL yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau iaith i'ch galluogi i gael gafael ar wasanaethau lleol, cymryd rhan ym mywyd dyddiol ym Mhrydain a'ch paratoi ar gyfer cyflogaeth neu addysg bellach.

Darganfyddwch fwy... 03300 580845

 

Rhesymau dros Ddysgu gyda ni

  1. Rhoi hwb i’ch hyder
  2. Darganfod sgil newydd
  3. Agor drysau at gyfleoedd newydd
  4. Ailennyn diddordeb
  5. Gwella eich llesiant
  6. Gwneud llawer o ffrindiau newydd
  7. Bod yn rhan o’ch cymuned leol
  8. Dod yn fwy gweithgar a dirwystr
  9. Dysgu sgiliau newydd an gwahanol
 

Edrychwch ar ein cyrsiau

Ymunwch â ni

Dewch yn ddysgwr, tiwtor, neu bartner – beth bynnag y dymunwch chi! Byddem ni wrth ein bodd pe byddech chi’n rhan o’n gwaith.

Cysylltwch â ni
expand_less