Cynllun Strategol
Cyflwyniad, Cadeirydd Cyngor - John Graystone
Rydym bellach mewn sefyllfa newydd a nodweddir gan ddirwasgiad economaidd, cyfyngiadau ar wariant cyhoeddus ac ansicrwydd ynghylch cyllido yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu bod pwysau ychwanegol ar ein hadnoddau. Mae’r farchnad lafur yn newid yn gyflym yng Nghymru ac mae angen i bobl ddysgu sgiliau newydd, yn enwedig y rhai hynny sy’n gysylltiedig â thechnolegau digidol.
Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales mewn sefyllfa dda i ychwanegu at etifeddiaeth ei sefydliadau rhagflaenol a bydd yn hyrwyddo addysg ryddfrydig eang sy’n gwella cyfiawnder cymdeithasol ac ymgysylltiad cymunedol, ochr yn ochr â chynnig gwasanaethau addysg a hyfforddiant sydd â phwyslais penodol ar gyfer cyflogadwyedd, menter a datblygu sgiliau. Yn bwysicaf oll, bydd datblygu addysg, sgiliau a ffyniant ar gyfer pobl Cymru yn gofyn am ymrwymiad i ddinasyddiaeth ddemocrataidd, cynwysoldeb, cyfoethogi diwylliannol, iechyd a lles, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.
Rhagor o Wybodaeth
Os hoffech wybod mwy am ein Cyngor, siaradwch gyda ni.
Cyfeiriad
Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
7, Iard y Cowper, Ffordd Curran
Caerdydd CF10 5NB
Ffôn
E-bost
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, tiwtor, neu bartner – beth bynnag y dymunwch chi! Byddem ni wrth ein bodd pe byddech chi’n rhan o’n gwaith.
Cysylltwch â ni