Dros 100 mlwydd oed ac yn dal yn ifanc!
Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yw canlyniad dros 100 mlynedd o hanes, sydd oll wedi llywio ein dull o weithio heddiw. Mae gennym ni hanes balch o helpu pobl o bob cefndir, o gymunedau o bob cwr o Gymru – gan lunio bywydau a darparu addysg ysbrydolgar.
Ein Hanes
Daeth Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales i fodolaeth ar 5 Tachwedd 2016 pan newidiwyd ein henw blaenorol, sef WEA YMCA CC Cymru - roedd hyn yn deillio o uno Coleg Harlech a CAG Gogledd Cymru â CAG De Cymru i sefydlu CAG Cymru, ac yn dilyn hynny, uno CAG Cymru a Choleg Cymunedol YMCA Cymru.
Rydym ni wedi treulio’r ganrif ddiwethaf a rhagor yn darparu addysg oedolion o’r radd flaenaf ledled Cymru - gan helpu unigolion i gyflawni eu potensial a sicrhau bod cymunedau yn fwy cydnerth yn ystod cyfnodau o newid.
CAG Cymru
Crëwyd CAG Cymru ym mis Ionawr 2014 pan unwyd CAG De Cymru a Choleg Harlech CAG (Gogledd Cymru).
Cychwynnodd gwaith Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (CAG) yng Nghymru ym 1907, bedair blynedd ar ôl sefydlu CAG yn Lloegr. Sefydlwyd CAG gan Albert Mansbridge yn 1903, a chafodd ei chreu fel cynghrair rhwng llafur (dosbarthiadau gweithiol) a dysg (prifysgolion).
Rhennir gwreiddiau ideolegol CAG â nifer o fudiadau o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, megis athrofeydd mecanyddion, y mudiad cydweithredol a darlithoedd poblogaidd ynghylch gwyddoniaeth. Crëwyd pob un o’r rhain i annog a chefnogi’r awydd gan bobl ddosbarth gweithiol i barhau i ddysgu ar hyd eu hoes.
Coleg Harlech
Coleg Harlech oedd yr unig goleg addysg preswyl tymor hir ar gyfer myfyrwyr aeddfed yng Nghymru, a chafodd ei sefydlu yn 1927 gan Thomas Jones (T. J.), Ysgrifennydd Cabinet David Lloyd George a Stanley Baldwin, i barhau â gwaith CAG mewn amgylchedd preswyl.
Cydnabyddir ei fod wedi newid bywydau miloedd o bobl ac wedi sicrhau bod gan Brydain, a Chymru yn benodol, weithwyr cymdeithasol, athrawon, gwleidyddion, swyddogion undebau llafur ac entrepreneuriaid cymdeithasol ymroddgar oedd yn gweithio i wella delfrydau a dyheadau.
Trwy gydol yr hanes a rennir ganddynt yng Nghymru, mae hanesion CAG a Choleg Harlech wedi ymblethu ble’r oeddent yn rhannu ethos cyffredin yn seiliedig ar werthoedd democratiaeth a chyfiawnder cymdeithasol.
Coleg Cymunedol YMCA Cymru
Yr YMCA yw un o fudiadau ieuenctid hynaf a mwyaf yn y byd. Cafodd ei sefydlu yn 1844, ac mae bellach yn gweithredu mewn 120 o wledydd ac yn cyrraedd 64 miliwn o bobl. Mae YMCA yn gweithio i rymuso pobl ifanc - o blentyndod i oedolaeth ifanc - gyda’r cymorth y mae arnynt ei angen i gyrraedd eu potensial a chreu dyfodol gwell i bawb.
Sefydlwyd Coleg Cymunedol YMCA Cymru Cyfyngedig ym 1993 fel un o adrannau Cyngor Cenedlaethol yr YMCA yng Nghymru. Trosglwyddwyd statws dynodedig o’r Cyngor Cenedlaethol i greu sefydliad hollol annibynnol yn 2004, yn unol â Deddf Addysg Bellach ac Addysg Uwch 1992.
Mae WEA Cymru, ei sefydliadau rhagflaenol a Choleg Cymunedol YMCA Cymru Cyfyngedig wedi gwneud cyfraniadau nodedig i addysg oedolion yng Nghymru ers blynyddoedd lawer.
Mae'r sefydliad sydd newydd ei enwi bellach yn parhau â'r gwaith hwn o dan yr enw 'Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales’.
Cydweithio â chi heddiw
Rydym ni’n ymfalchïo yn yr addysg yn y gymuned - yn cynnwys datblygu cymunedol - a’r addysg yn y gweithle sy’n cael eu darparu gennym ni. Caiff y gwaith pwrpasol hwn ei ddarparu trwy strwythur o ganghennau lleol a thrwy bartneriaethau.
Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn falch o gydweithio â sefydliadau cymunedol a gwirfoddol, sefydliadau cynrychiadol yn y gweithle, a darparwyr eraill (yn cynnwys y sector gwirfoddol, awdurdodau lleol, colegau addysg bellach a phrifysgolion). Rydym ni’n gwybod na allwn ni gyflawni'r gwaith ar ein pen ein hun - mae’n ymdrech gydweithredol i helpu i wella cymunedau a phrofiad personol mewn addysg.
Mae ein sylw pennaf yn parhau ar gynnig amrywiaeth helaeth o gyfleoedd i bobl - beth bynnag fo’u hoedran, eu hanfanteision neu anghenion eraill. Mae dysgwyr a changhennau yn parhau i wneud cyfraniad priodol ac unigryw at ddatblygu a chyd-drafod darpariaeth leol, a chynrychioli’r sefydliad fel cyfanrwydd.
Ein Gweledigaeth
Rydym ni’n frwdfrydig ynghylch gwella bywyd oedolion, ac yn rhoi sylw penodol i’r bobl fwyaf ddifreintiedig. Byddwn yn creu cyfleoedd dysgu perthnasol ac yn eu darparu ym mhob cymuned ledled Cymru.
Rydym ni’n dymuno cynnig gobaith a meithrin uchelgais fel prif ddarparwr rhaglenni dysgu yn y gymuned, gan alluogi bob oedolyn i gyflawni eu potensial llawn.
Ein Diben i Chi
Rydym ni’n benderfynol o ddarparu cyfleoedd dysgu hygyrch ar gyfer oedolion ym mhob cwr o Gymru. Mae ein nod o sicrhau bod ein dysgwyr yn uchelgeisiol ac yn wybodus, yn barod i ddysgu trwy gydol eu hoes, yn nod cadarn – ble’r ydym yn creu amgylchedd sy’n annog ac yn galluogi pob un o’n dinasyddion i wneud cyfraniad llawn at fywyd a gwaith yng Nghymru – a’r byd.
Mae bod yn iach ac yn hyderus yn rhan bwysig o hyn ac rydym ni’n dymuno sicrhau eich bod chi’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o’r gymdeithas.
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu’n aelod – beth bynnag y dymunwch ei wneud, byddem wrth ein bodd eich bod yn rhan o’n gwaith.
Cysylltwch â ni