Straeon Ysbrydoledig
Dyma straeon sydd wir yn ysbrydoli. Mae ein dysgwyr yn darganfod canlyniadau cadarnhaol y mae addysg oedolion yn ei gynnig i unigolion a chymunedau. Mae’r buddion a gaiff dysgwyr yn amrywio, ond peidiwch â’n credu ni yn unig! Mae gennym ddigonedd o straeon ysbrydoledig am lwyddiannau, ac rydym yn falch o'u rhannu gyda chi isod:
Phillip Beacall
Philip Beacall yw enillydd Gwobr Margaret Jones. Yma, rydym ni’n bwrw cipolwg ar hanes ei agwedd benderfynol a’i ddyfalbarhad, a sut llwyddodd i ennill cymwysterau achrededig a datblygu sgiliau digidol gan wella ei lesiant ar yr un pryd.
Tara Price
Mae stori Tara yn tystio i rym ei hargyhoeddiad ei hun yn ogystal â grym dysgu – ac mae hi wedi goresgyn nifer o heriau yn ystod ei thaith.
Siân Phillips
Dychwelodd Siân i ddysgu fel seibiant o’i gwaith yn gofalu am ei mam am un prynhawn bob wythnos, ond yn achos Siân, daeth dysgu yn achubiaeth iddi hi.
Clare James
Roedd Clare wedi cyrraedd isafbwynt yn ei bywyd; roedd hi’n dioddef gyda iselder ac yn wynebu anawsterau â pherthnasoedd teuluol. Teimlai Clare nad oedd hi’n byw, dim ond yn bodoli. Ond fe wnaeth hynny oll newid o ganlyniad i ddysgu.
Byddwch yn ysbrydoliaeth
Ymunwch ag Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales a gallech chi ysbrydoli pobl eraill. Ewch amdani – wnewch chi ddim difaru.
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu’n aelod – beth bynnag y dymunwch ei wneud, byddem wrth ein bodd eich bod yn rhan o’n gwaith.
Cysylltwch â ni