Philip Beacall, ein enillydd Gwobr Margaret Jones 2019
Yn y llun mae Philip yn derbyn ei wobr gan Lesley Griffiths AG.
Phillip Beacall
Mae stori Philip yn un o benderfyniad a dyfalbarhad, gan ennill cymwysterau achrededig a sgiliau digidol creadigol wrth wella ei les.
Mae gan Philip - neu Phil i’w ffrindiau - barlys yr ymennydd. Mae hyn yn effeithio ar ei leferydd a symudiad ar ochr dde ei gorff. Mae Phil wedi ymddiddori mewn ffotograffiaeth ers tro, ond mae ei gyflwr wedi ei gwneud yn anodd iddo ddefnyddio offer camera yn gyfforddus - gan ei fod wedi’i lunio ar gyfer pobl lawdde. Er yn ddefnyddiol, nid oedd sesiynau tiwtorial YouTube yn esbonio technegau mor llawn ag y byddai wedi hoffi.
Felly aeth Phil i gyrsiau mewn coleg AB lleol ond canfu nad oedd yn gallu cyflawni ei botensial llawn; roedd yn dal i gael trafferth wrth ddefnyddio’r offer yn ogystal â chwblhau’r gwaith papur angenrheidiol. Ond roedd Phil yn benderfynol o ddilyn ei ddiddordeb mewn ffotograffiaeth ac i ddysgu sgiliau newydd, felly ymunodd â chwrs gydag Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales.
Ar y dechrau roedd yn teimlo’n bryderus oherwydd ei brofiadau ar gyrsiau blaenorol. Ond ers ymuno, mae wedi gwneud cynnydd rhagorol, gan symud o’r cwrs Ffotograffiaeth i Ddechreuwyr hyd at lefel Canolradd ac yna ymlaen i Olygu Delweddau Digidol.
Mae Phil yn mynd i’r afael â’i ddysgu gyda brwdfrydedd a hiwmor, gan groesawu’n rhwydd syniadau a chysyniadau newydd a gyflwynwyd iddo gan ei diwtor Mick Scraggs, er mwyn sefydlogi ac ymlonyddu ei hun a’i gamera i allu gweithio ar wella ei ffotograffiaeth a lleihau aneglurder mudiant a achosir gan ei gyflwr. Mae’n gweithio’n annibynnol ac yn integreiddio’n dda gyda’r grŵp sy’n ei drin fel unrhyw aelod arall o’r dosbarth.
“Rwy’n bwriadu cwblhau fy nghwrs cyfredol a hoffwn gwblhau’r cwrs lefel uwch i ddatblygu fy sgiliau.”
Mae Phil wedi dangos penderfyniad a dyfalbarhad i oresgyn heriau wrth gwblhau gwaith papur trwy gael cymorth gan ysgrifennydd. Mae’r ffaith bod y cyrsiau’n cael eu cynnal mewn lleoliad cymunedol gyda mynediad da hefyd yn fantais yn ogystal â thiwtor sy’n deall ei anghenion yn llawn gan gynnig atebion llwyddiannus ac ymarferol.
Yn ogystal â’i sgiliau ffotograffiaeth ddigidol newydd, mae Phil wedi cynyddu ei ddefnydd a’i ddealltwriaeth o dechnoleg arall er mwyn ei gynorthwyo gyda thasgau ymarferol pob dydd. Mae Phil wedi darganfod bod ei hyder wedi cynyddu ac mae ei iechyd a’i les wedi gwella. Mae bellach yn mynd allan yn aml i ymarfer ei sgiliau ac mae wedi colli’r gofidiau a’r rhwystredigaethau a deimlai ynghylch defnyddio’r camera cyn ymuno â’r cwrs. Mae bellach yn mynd allan ar deithiau maes gydag aelodau dosbarth eraill ac mae’n mwynhau mynd allan yn ei ardal leol - ac ymhellach i ffwrdd ar ei wyliau - er mwyn ymarfer ei sgiliau mewn gwahanol leoliadau.
Dymunwn yn dda iddo ar gyfer y dyfodol a’i lwybr dysgu o hyn ymlaen.
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu’n aelod – beth bynnag y dymunwch ei wneud, byddem wrth ein bodd eich bod yn rhan o’n gwaith.
Cysylltwch â ni