Enillydd Gwobr Margaret Jones
Tara Price
Tara Price
Mae stori Tara Price yn dyst i bŵer ei dewrder ei hun, yn ogystal â phŵer dysgu – lle bu rhaid iddi oresgyn sawl her ar hyd y ffordd.
Roedd Tara ynghlwm â chyfnod prawf am sawl blwyddyn, lle’r oedd yfed gormod o alcohol ar fai yn rhannol, ac, yn 2005, cafodd ei dal mewn tân, lle cafodd losgiadau difrifol, yn ogystal â dioddef o orbryder, iselder ac Anhwylder Straen wedi Trawma yn dilyn hynny.
Er gwaethaf yr heriau hyn, gwthiodd Tara ei hun ymlaen.
Aeth Tara i’w rhaglen ddysgu gyntaf bum mlynedd yn ôl gyda’n partner dysgu Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru (wedi ei weithredu gan Working Links) fel rhan o orchymyn llys. Agorodd hyn fyd newydd iddi, a dysgodd yn gyflym ei bod yn gallu cyflawni unrhyw beth os yw hi’n gweithio’n ddigon caled.
Daliodd Tara ati i ganolbwyntio ar ddysgu wrth iddi frwydro yn erbyn ei heriau personol, gan wella nes iddi sylweddoli beth oedd manteision dysgu a sut gall helpu pobl eraill; a, bellach, mae Tara’n barod i ennill y cymhwyster Dyfarniad mewn Addysg a Hyfforddiant, a fydd yn ei galluogi i addysgu pobl eraill.
“Mae Tara wedi bod ar daith wych ers i ni gwrdd am y tro cyntaf. Gall fod yn falch o’i chyflawniadau.”
Yn ôl ei Swyddog Prawf, Sian Waters, “Mae hyder Tara wedi cynyddu nes ei bod hi bellach yn gwirfoddoli fel gweinyddwr Ail Gyfle, sef prosiect ailgylchu/uwchgylchu yn Llanelli, ac mae gennym fynediad at gyllid i gyflogi Tara yn rhan amser. Ar hyn o bryd, rydym yn gobeithio cysylltu’r profiad hwn â phrentisiaeth Lefel 2 neu 3.”
“Mae agwedd Tara, a’r newid yn ei hymddygiad, yn ogystal â’i gallu i fod yn fodel rôl, yn amlwg i bawb. Bellach, mae hi’n agored i newid, ac yn treulio amser yn meithrin pobl eraill a’u hannog yn y ffordd y cafodd hi ei chefnogi. Mae hi’n ysbrydoliaeth.”
Hefyd, dywed Sian, “Mae hi wedi bod trwy’r system y mae hi bellach yn ei gefnogi. Mae ei sgiliau cymwys newydd yn cael eu defnyddio yn Ail Gyfle a bydd y cymhwyster Dyfarniad mewn Addysg a Hyfforddiant yn ei galluogi i gyflwyno cyrsiau i bobl o fewn y System Cyfiawnder Troseddol sy’n defnyddio Ail Gyfle - gan helpu pobl eraill i wneud y newidiadau angenrheidiol i’w bywydau. Mae Tara yn dystiolaeth o gig a gwaed bod y system yn gweithio, ac mae hi’n seren yn y sefydliad.”
Hefyd, mae Tara wedi dechrau gweld gwelliannau mewn rhannau eraill o’i bywyd. Bellach, mae ganddi gefnogaeth ei theulu, ac mae ei pherthynas â nhw yn llawer cryfach. Mae hi’n cydnabod pa mor gamweithredol oedd ei bywyd, ac mae hi’n datgan yn llawn balchder bod ‘pobl yn gallu newid’, ac mae ei mab yn gweld ‘ochr well i’w fam’. Mae ei sgiliau cymdeithasol wedi gwella’n aruthrol, hefyd, ac mae hi’n llawer mwy awdurdodol gyda’r bobl o’i chwmpas.
Yn ôl y Swyddog Prawf, Sian, “Mae Tara wedi bod ar daith wych ers i ni gwrdd am y tro cyntaf. Gall fod yn falch o’i chyflawniadau.”
“Byddai Tara yn dweud Rydw i wedi bod yno, a byddwn i fyth yn dychmygu y byddwn i yma nawr, yn hapus, yn gweithio gyda thîm hyfryd ac yn mwynhau fy mywyd.”
Wel, dyna’n union y mae Tara’n ei wneud nawr – a dyma brawf o’i hymdrechion ei hun, yn ogystal â’r bobl o’i chwmpas. Pob lwc iddi yn y dyfodol.
Straeon Llwyddiant
Os ydych wedi bod yn llwyddiannus o ganlyniad i un o'n cyrsiau, byddem wrth ein bodd yn clywed amdano! Mae straeon llwyddiant mor bwysig wrth annog darpar ddysgwyr i roi eu hunain yn gyntaf a llwyddo. Cysylltwch os oes gennych chi stori yr hoffech ei rhannu i ysbrydoli eraill Button: Anfon eich stori atom.
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu’n aelod – beth bynnag y dymunwch ei wneud, byddem wrth ein bodd eich bod yn rhan o’n gwaith.
Cysylltwch â ni