Swyddi
Ynglŷn ag Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Daeth Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales i fodolaeth ar 1 Awst 2015 yn sgil uno Cymdeithas Addysg y Gweithwyr Cymru a Choleg Cymunedol Cymru YMCA.
Rydyn ni'n fudiad democrataidd, annibynnol a gwirfoddol, sy’n ymroi i ehangu cyfranogiad, hybu dinasyddiaeth weithgar a datblygu sgiliau, a darparu’r dysgu o’r ansawdd gorau, trwy ddull cydweithredol gan weithio ar hyd a lled Cymru.
Am ein buddion
• lwfans gwyliau hael o 30 diwrnod y flwyddyn (pro rata i staff rhan amser) • Gwyliau Banc hael a gwyliau disgresiwn ychwanegol • Gweithio 35 awr yr wythnos • Cynllun pensiwn cyfartaledd gyrfa – CPLlL & TPS
Swyddog Cyflenwi Cwricwlwm (GDC)
Cytundeb cyfnod penodol hyd at diwedd Gorffennaf 2019
Rhan amser 28 awr yr wythnos
Ers ei sefydlu yn 2015, mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales wedi gosod ei hun yn gadarn fel y Coleg Cymunedol Cenedlaethol, yn gwasanaethu oedolion Cymru gyda chyfleoedd aadysgol sydd yn ysbrydoli, ac ar yr un pryd yn newid bywydau. Rydym yn fudiad democrataidd, annibynnol a gwirfoddol, rydym wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad, hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol a datblygu sgiliau a darparu dysgu o ansawdd gorau, trwy ddull cydweithredol, ac yn gweithio ledled Cymru.
Yn adeiladu ar ein partneriaethau cryfion, mae ein gweledigaeth yn ein lleoli ar y rheng flaen ar gyfer y twf yn addysg gydol oes, yn blaenoriaethu cyfleoedd i rheini sydd anoddaf eu cyrraedd, yn galluogi pobol trwy drosglwyddo sgiliau iddynt ac yn darparu mynediad cyfartal i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ein gweledigaeth yw cynyddu effaith gymdeithasol, economaidd a phersonol addysg cymunedol oedolion yng Nghymru a'n cenhadaeth yw creu cyfleoedd dysgu ysbrydoledig i oedolion mewn cymunedau a gweithleoedd ledled Cymru. Ein nod yw grymuso pobl i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth i wireddu eu llawn botensial.
Am y Swydd
Byddwch yn cynorthwyo ac yn cefnogi datblygu a gweithredu rhaglen gydlynus o ddarpariaeth dysgu oedolion gan gynnwys pob agwedd o gynllunio, ariannu, trefnu a dyrannu adnoddau a datblygiad. Byddwch yn mynd ati i recriwtio nifer hyfyw o ddysgwyr ar y ddarpariaeth trwy rwydweithio, cydweithio a hyrwyddo a datblygu partneriaethau a chyfleoedd cydweithio gydag ystod o gyrff allanol. Byddwch yn allweddol wrth gynorthwyo’r Rheolwr Rhanbarthol i sicrhau fod yr holl weithgareddau dysgu yn cyrraedd targedau'r ddarpariaeth a gytunwyd arnynt, cyllid ac ansawdd.
Amdanoch chi
Bydd gennych brofiad o addysg gymunedol, addysg oedolion neu waith datblygu cymunedol, a gwybodaeth brofiadol o weithgareddau hyrwyddo neu farchnata yn y gymuned. Byddwch yn brofiadol ac yn gymwys mewn gweithredu gweithdrefnau ansawdd mewnol, a bydd gennych sgiliau trefnu, cydlynu a gweinyddol ardderchog. Mae cymhwyster addysgu lefel 3 a Dyfarniad Asesydd lefel 3 neu ragflaenydd yn hanfodol. Byddai ymwybyddiaeth o werthoedd a phrosesau dysgu cymunedol yn fanteisiol ynghŷd â sgiliau iaith Gymraeg.
Sut i ymgeisio
A fyddech cystal ag ymgeisio gan ddefnyddio'r pecyn cais isod a dychwelyd eich cais gorffenedig at recruitment@adultlearning.wales.
Y dyddiad cau ar gyfer swydd hon yw 9yb Dydd Mercher 2il Ionawr 2019
.
Swyddog Codi Arian
Cyfnod penodol 12 mis (estyniad yn bosib)
Rhan amser 35 awr yr wythnos
Ers ei sefydlu yn 2015, mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales wedi gosod ei hun yn gadarn fel y Coleg Cymunedol Cenedlaethol, yn gwasanaethu oedolion Cymru gyda chyfleoedd aadysgol sydd yn ysbrydoli, ac ar yr un pryd yn newid bywydau. Rydym yn fudiad democrataidd, annibynnol a gwirfoddol, rydym wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad, hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol a datblygu sgiliau a darparu dysgu o ansawdd gorau, trwy ddull cydweithredol, ac yn gweithio ledled Cymru.
Yn adeiladu ar ein partneriaethau cryfion, mae ein gweledigaeth yn ein lleoli ar y rheng flaen ar gyfer y twf yn addysg gydol oes, yn blaenoriaethu cyfleoedd i rheini sydd anoddaf eu cyrraedd, yn galluogi pobol trwy drosglwyddo sgiliau iddynt ac yn darparu mynediad cyfartal i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ein gweledigaeth yw cynyddu effaith gymdeithasol, economaidd a phersonol addysg cymunedol oedolion yng Nghymru a'n cenhadaeth yw creu cyfleoedd dysgu ysbrydoledig i oedolion mewn cymunedau a gweithleoedd ledled Cymru. Ein nod yw grymuso pobl i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth i wireddu eu llawn botensial.
Am y Swydd
Bydd deilydd y swydd yn datblygu a hyrwyddo ystod amrywiol o weithgareddau codi arian a phrosiectau i gynorthwyo strategaeth codi arian a chynhyrchu incwm. Bydd deilydd y swydd hefyd yn datblygu perthansoedd gyda rhoddwyr corfforaethol newydd a phresennol I sicrhau cyllid hir dymor a chynyddol ar draws ystod eang o farchnadoedd targed.
Amdanoch chi
Bydd ganddoch brofiad o ddarparu ffurflenni cais am arian ac ysgrifennu cynigion. Bydd ganddoch wybodaeth dda am egwyddorion codi araian gan ymddiriedolaethau a sefydliadau. Hefyd, bydd ganddoch brofiad o gyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol. Bydd gennych sgiliau diplomyddiaeth rhagorol yn ogystal a sgiliau eithriadaol mewn trefnu a rheoli prosiect. Mae gradd perthnasol yn hanfodol a byddai profiad o weithio gyda sefydliadau elusennol a grwpiau gwirfoddol yn ddymunol.
Sut i ymgeisio
A fyddech cystal ag ymgeisio gan ddefnyddio'r pecyn cais isod a dychwelyd eich cais gorffenedig at recruitment@adultlearning.wales.
Y dyddiad cau ar gyfer swydd hon yw 9yb Dydd Mawrth 5ed Fawrth 2019
.
2 x Gweinyddwr Cymorth Rhanbarthol (GDC)
Cyfnod penodol hyd at diwedd Gorffennaf 2019
Rhan amser 14 awr - 17.5 awr yr wythnos (gweler proffil rôl)
Ers ei sefydlu yn 2015, mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales wedi gosod ei hun yn gadarn fel y Coleg Cymunedol Cenedlaethol, yn gwasanaethu oedolion Cymru gyda chyfleoedd aadysgol sydd yn ysbrydoli, ac ar yr un pryd yn newid bywydau. Rydym yn fudiad democrataidd, annibynnol a gwirfoddol, rydym wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad, hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol a datblygu sgiliau a darparu dysgu o ansawdd gorau, trwy ddull cydweithredol, ac yn gweithio ledled Cymru.
Yn adeiladu ar ein partneriaethau cryfion, mae ein gweledigaeth yn ein lleoli ar y rheng flaen ar gyfer y twf yn addysg gydol oes, yn blaenoriaethu cyfleoedd i rheini sydd anoddaf eu cyrraedd, yn galluogi pobol trwy drosglwyddo sgiliau iddynt ac yn darparu mynediad cyfartal i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ein gweledigaeth yw cynyddu effaith gymdeithasol, economaidd a phersonol addysg cymunedol oedolion yng Nghymru a'n cenhadaeth yw creu cyfleoedd dysgu ysbrydoledig i oedolion mewn cymunedau a gweithleoedd ledled Cymru. Ein nod yw grymuso pobl i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth i wireddu eu llawn botensial.
Am y Swydd
Bydd y deiliad swydd y yn rhoi cefnogaeth ac yn sail i waith y tîm cyflawni drwy ddarparu amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol, gan gynnwys cofrestru cyrsiau ar y systemau gwybodaeth rheoli (SRhG), argraffu pecynnau tiwtor, prosesu hawliadau tâl tiwtoriaid, a logio pob manylion y dysgwr a’u gofynion cymorth. Bydd deiliad y swydd yn sicrhau gweinyddiaeth fanwl gywir mewn perthynas â'i holl darpariaeth gytunedig, cyllid ac ansawdd.
Amdanoch chi
Bydd gennych addysg o safon dda a bydd cymhwyster TG perthnasol ar lefel 2 neu uwch yn fantais. Bydd gennych sgiliau TG da a’r gallu i arddangos gwybodaeth weithredol dda o Excel, Word a systemau cronfa ddata. Byddwch yn drefnus, yn rhesymegol ac yn gyfathrebwr rhagorol. Byddai sgiliau Cymraeg lefel 3 yn ddymunol.
Sut i ymgeisio
A fyddech cystal ag ymgeisio gan ddefnyddio'r pecyn cais isod a dychwelyd eich cais gorffenedig at recruitment@adultlearning.wales.
Pecyn Cais (Glyn Ebwy)
Pecyn Cais (Abertawe)
Y dyddiad cau ar gyfer swydd hon yw 9yb Dydd Gwener 1af Fawrth 2019
.
Tiwtoriaid eu h'angen
Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn gwahodd ceisiadau gan diwtoriaid cymwysiedig i ddysgu ar y pynciau isod mewn lleoliadau ar draws Cymru gyfan. Rydym hefyd yn edrych am diwtoriaid gyda'r gallu i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog.
Rydym yn edrych yn arbennig am diwtoriaid yn yr ardaloedd a pynciau canlynol:
Am y swydd: Byddwch yn cynllunio, paratoi a darparu cyrsiau a rhaglenni addysgu yn unol ag anghenion dysgwyr a phrosesau a gweithdrefnau ansawdd. Byddwch yn darparu addysg o ansawdd uchel gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau dysgu ac amrywiaeth o ddulliau asesu a fo’n briodol ac yn unol a anghenion y dysgwyr a gofynion y cyrff dyfarnu. Byddwch yn sicrhau eich bod yn darparu adborth chlir ac adeiladol o fewn amserlen priodol.
Amdanoch chi: Bydd ganddoch gymhwyster dysgu o leiafswm lefel 3 neu lefel 4 neu uwch yn ddibynnol ar yr
addysgu ddarparwyd. Bydd ganddoch
brofiad o ddarparu addysgu o fewn maes pwnc a phrofiad o baratoi addysg I
gynnwys cynlluniau gwersi a chynlluniau gwaith.
Byddai profiad o addysgu oedolion a gweithio gyda’r sector gwirfoddol a
sefydliadau elusennol yn fantais.
Gwynedd, Ynys Mon, Conwy / Dinbych, Sir Y Fflint / Wrecsam:
Llythrennedd Digidol, Sgiliau Hanfodol, Sgiliau Cyflogadwyedd, SSIE
Dyfarniad ,mewn Addysg a Hyfforddiant (AET), TG,
Cymwysterau Asesydd IQA Lefel 3 a 4,
Powys, Canolbarth Cymru a Ceredigion:
Llythrennedd Digidol, Sgiliau Hanfodol, Sgiliau Cyflogadwyedd, Sgiliau Bywyd
Datblygiad Personol, Iechyd a Lles, Celf Therapiwtig,
Hanes Lleol, TG
Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, RCT, Trefynwy, Casnewydd, Torfaen a Caerdydd:
Llythrennedd Digidol, Sgiliau Hanfodol, Sgiliau Cyflogadwyedd, TGCymorth Cyntaf, Hylendid Bwyd,
Trin á Llaw, COSHH, Iechyd a DiogelwchGwasanaeth Cwsmer, Diogelu, POVA,
Adran Cyflawni Cenedlaethol (lleoliadau ar draws Cymru):
Addysg Undebau Llafur a Addysg yn y Gweithle:
Llythrennedd Digidol / TG, Sgiliau Hanfodol, Iaith Gymraeg
POVA a Diogelu, Datblygiad Personol
Iechyd a Diogelwch, Iechyd a Lles
Adran Cyflawni Cenedlaethol (lleoliadau ar draws Cymru):
Cymuned Ieuenctid a Gwaith Chwarae(YCPW(Youth Community and Playwork)):
Tiwtoriaid Gwaith Chwarae
Tiwtoriaid Gwaith Ieuenctid
Tiwtoriaid hefyd eu h'angen:
Tiwtoriaid Llythrennedd Digidol
Rhan amser, amryw oriau, £23.02 yr awr (yn aros dyfarniad cyflog)
Lleoliadiadau yng Ngwynedd (ac ar draws Cymru)
Tiwtoriaid Cymraeg
Rhan amser, amryw oriau, £23.02 yr awr (yn aros dyfarniad cyflog)
Lleoliadiad yng Nghaerfyrddin (ac ar draws Cymru)
Sut i Ymgeisio:Nid ydym yn derbyn CV. Felly gwnewch gais trwy gwblhau ein ffurflen gais ar-lein i diwtoriaid neu llenwch y ffurflen gais isod a dychwelwch eich cais at Nicola.powell@adultlearning.wales neu drwy'r post at Nicola Powell, AD, Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales, 7 Iard y Cowper, Ffordd Curran, Caerdydd CF10 5NB.