Bennaeth Gwasanaethau Dysgwyr ac Adnoddau - Cath Hicks
Ymunais ag Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales (WEA De Cymru ar y pryd) fel arbenigwr AD yn 2008, yn dilyn rolau Adnoddau Dynol blaenorol yn y sectorau preifat a ddielw. Ers hynny, mae fy rôl yn y sefydliad wedi datblygu'n barhaus, ac ar hyn o bryd rwy'n Bennaeth Gwasanaethau Dysgwyr ac Adnoddau.
Fel aelod o Uwch Dîm Rheoli'r sefydliad, mae fy meysydd cyfrifoldeb yn cynnwys Gwasanaethau Dysgwyr, Marchnata, Diogelwch Iechyd a'r Amgylchedd, Cymraeg a Dwyieithrwydd, Datblygu Digidol ac Adnoddau Dynol. Yn atebol i'r Prif Weithredwr, rydw i'n darparu arweinyddiaeth strategol, rheolaeth a datblygiad y strategaeth Adnoddau Dynol a'r strategaeth gwasanaethau i ddysgwyr i gefnogi'r Cynllun Strategol a'r amcanion ariannol. Rwyf hefyd yn arwain y gwaith o hyrwyddo a datblygu cynnig Cymraeg gweithredol yn holl weithgareddau'r sefydliad ar lefel strategol, gan sicrhau bod natur ddwyieithog y sefydliad yn cael ei rhagamcanu'n effeithiol ledled Cymru.
Rwyf yn Aelod Siartredig o'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) a dysgwr Cymraeg ar lefel Sylfaen. Yn fy amser hamdden, rwy'n mwynhau rhedeg, ac rwyf wedi cymryd rhan mewn sawl hanner marathon o'r blaen. Rwyf hefyd yn mwynhau marchogaeth pryd bynnag y gallaf.
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, tiwtor, neu bartner – beth bynnag y dymunwch chi! Byddem ni wrth ein bodd pe byddech chi’n rhan o’n gwaith.
Cysylltwch â ni