Yn Barod am Waith


Yn Barod am Waith
Wedi’i Ariannu’n Llawn*
Pob Lefel
Dydd Iau 10:00- 12:00 | 6 wythnos
Cwrs ar-lein dan arweiniad tiwtor yw hwn
Trosolwg
Mae cyflogadwyedd yn ymwneud â'ch gwybodaeth, sgiliau ac agweddau, sut rydych chi'n defnyddio'r asedau hynny, a sut rydych chi'n eu cyflwyno i gyflogwyr. Beth sydd gennych i'w gynnig - beth yw eich pwynt gwerthu unigryw? Sut allwch chi wneud hynny'n glir i gyflogwyr?Yn y cwrs hwn, rydym yn gobeithio eich helpu i gynyddu eich ymwybyddiaeth a'ch dealltwriaeth, o pam eich bod yn gyflogadwy a'r hyn y gallwch ei wneud i ddod yn fwy cyflogadwy. Byddwn yn ystyried rhwystrau i waith, gan gynnwys y newidiadau a grëwyd gan COVID, a byddwn yn trafod sut i wella'ch cyfleoedd cyflogaeth trwy werthfawrogi'ch sgiliau, gwneud ceisiadau gwaith gwych a chael cyfweliad safonol.
Cynnwys
Ydych chi allan o waith? Ydych chi wedi colli eich swydd yn ddiweddar, ac am wella eich sgiliau chwilio am waith?Rhwystrau i weithio a sut i'w goresgyn.
Y broses o wneud cais am swydd a phwysigrwydd bod yn rhagweithiol.
Technegau / sgiliau cyfweld.
Gwerthu'ch hun i ddarpar gyflogwyr.
Cymhwyster
Ddim yn berthnasolGofynion Mynediad
Ddim yn berthnasolLlwybr Gyrfa
Cyflogadwyedd Lefel 1Beth Sydd Ei Angen Arnaf?
Cyfrifiadur / gliniadurCysylltiad â’r rhyngrwyd
Y gallu i chwilio'r rhyngrwyd
Gadewch i ni siarad!

We encourage and welcome correspondence and phone calls in Welsh and will respond to your language choice
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Cymorth a Chefnogaeth