Dylunio Graffig


Dylunio Graffig
Wedi’i Ariannu’n Llawn*
Dechreuwyr
Dydd Mercher 09:30- 12:00 | 12 wythnos
Cwrs ar-lein dan arweiniad tiwtor yw hwn
Trosolwg
A oes gennych ddiddordeb mewn dylunio graffig ac am ddysgu technegau traddodiadol i wella eich sgiliau dylunio? Mae'r gweithdai dylunio graffig anffurfiol, ar-lein hyn ar gyfer dechreuwyr sydd am ddysgu'r camau i ddatblygu eu sgiliau dylunio.Cynnwys
Bydd y gweithdai'n ymdrin ag agweddau ar dechnegau a deunyddiau dylunio graffig – wrth hyrwyddo eich sgiliau dylunio ar yr un pryd mewn amgylchedd ar-lein cefnogol a chyfeillgar. Byddwch yn cael gwybodaeth a phrofiad o'r ystod o dechnegau a deunyddiau y gellir eu defnyddio.Mae'r cwrs yn ymdrin â themâu fel:
• Hanes a mathau o ddylunio graffig
• Llythrennau a Theipograffeg
• Gosod dyluniadau ar gyfer posteri, gorchudd llyfrau a CDau
• Dylunio logo
• Sut y defnyddir darluniau ochr yn ochr â graffigau
Cymhwyster
Nid yw cwblhau'r cwrs hwn yn arwain at gymhwyster cydnabyddedigGofynion Mynediad
Mae'r cwrs hwn ar gyfer dechreuwyr i ddylunio graffig. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.Llwybr Gyrfa
Gallai'r cwrs hwn arwain at gwrs manylach achrededig.Beth Sydd Ei Angen Arnaf?
Gan mai cwrs ar-lein yw hwn, bydd angen y canlynol arnoch:• y defnydd o liniadur neu gyfrifiadur gyda chamera, meicroffon a chlustffonau - nid yw'r cwrs yn addas ar gyfer cyfrifiaduron tabled e.e. iPads
• cysylltiad â’r rhyngrwyd
• Deunyddiau dylunio graffig (efallai y bydd grant bach ar gael yn dibynnu ar gymhwysedd)
Gadewch i ni siarad!

We encourage and welcome correspondence and phone calls in Welsh and will respond to your language choice
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Cymorth a Chefnogaeth