Eich cynorthwyo tra byddwch yn dysgu
Rydym yn deall pwysigrwydd derbyn cymorth yn ystod eich taith. Dyna pam rydym yn rhoi sylw i Gymorth i Ddysgwyr i sicrhau y caiff eich holl anghenion eu diwallu ac y caiff eich holl gwestiynau eu hateb.

Unrhyw gwestiynau?
Peidiwch â phoeni – rydym ar gael i helpu! Rydym wedi llunio adran Cwestiynau Cyffredin i chi, i’ch helpu i dderbyn ateb am unrhyw gwestiynau yr hoffech eu holi.
Os nad yw eich cwestiwn neu’r mater sydd gennych chi dan sylw wedi’u rhestru, mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod unrhyw ymholiadau ychwanegol, a byddai’n dda gennym eich helpu sut bynnag y gallwn.
Ar gael i chi
Rydym yn dymuno sicrhau y cewch chi brofiad cadarnhaol a byddwch yn cael cymaint o fudd a phosibl o’ch cwrs.
Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall oedolion wynebu pob mathau o anawsterau a heriau ar adegau gwahanol yn ystod eu bywyd.
Byddwn yn ceisio bod mor anffurfiol a hyblyg ag y gallwn ni, ac os gallwn ni eich cynorthwyo i ddatrys unrhyw beth sy’n effeithio arnoch chi ac ar eich dysgu, siaradwch â ni – rydym ni ar gael i helpu.
Pa un ai a oes heriau yn ymwneud â gofalu am blant, gofalu am bobl ddibynnol, trefniadau domestig, anawsterau teithio, prynu deunyddiau, neu unrhyw beth arall a all fod yn effeithio ar eich gallu i ddysgu, siaradwch â thiwtor eich cwrs.
Gallwch chi hefyd drafod â’n Rheolwyr Dysgu, eich Swyddog Cyflenwi Cwricwlwm lleol, neu aelod o’r tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr. Gallwn ni eich sicrhau y byddwn ni’n gwneud popeth y gallwn i ymateb i’ch pryderon.
Rydym yn cydnabod y gall llawer o ffactorau effeithio ar allu dysgwr i astudio, a’r angen i sicrhau bod iechyd a llesiant personol yn flaenoriaeth.
Os ydych chi’n poeni am unrhyw agwedd o’ch cwrs ac yn dymuno trafod pethau yn gyfrinachol gyda rhywun, cofiwch gysylltu â ni, rydym yn barod i wrando.
03300 580845

Rhagor o arweiniad a Chymorth Arbenigol
Er y byddwn yn gwneud popeth y gallwn i gynorthwyo dysgwyr yn y dosbarth, ar brydiau, bydd angen arweiniad mwy arbenigol.
I gynorthwyo gyda hyn, rydym wedi llunio canllaw man cychwyn ynghylch darparwyr cymorth arbenigol. Os nad yw’r canllaw hwn yn rhoi sylw i’ch pryderon, mae croeso i chi gysylltu â ni ar 03300 580845.
Cynorthwyo dysgwyrEdrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, tiwtor, neu bartner – beth bynnag y dymunwch chi! Byddem ni wrth ein bodd pe byddech chi’n rhan o’n gwaith.
Cysylltwch â ni