Ar gael i’ch helpu chi
Mae cael cymorth a chefnogaeth yn ystod eich cwrs yn bwysig. Rydym yn rhoi sylw i Gymorth i Ddysgwyr i sicrhau y caiff eich holl anghenion eu diwallu ac y caiff eich holl gwestiynau eu hateb. Nid oes yn rhaid i chi fyth deimlo’n bryderus nac ar eich pen eich hun - fe wnawn ni eich cynorthwyo yn ystod pob cam o’r daith.

Cymorth gyda eich astudiaethau
Fel yn achos trafferthion ariannol, os ydych chi’n wynebu unrhyw anawsterau eraill sy’n eich atal chi rhag cyflawni eich potensial llawn yn un o’n cyrsiau, rydym ni ar gael i wrando.
Cymorth ariannol
Os oes gennych chi unrhyw fath o broblem ariannol sy’n eich rhwystro rhag dysgu, fe wnawn ni sicrhau y cewch chi unrhyw gyngor neu arweiniad a all fod yn ddefnyddiol i chi.

Cymorth ynghylch llesiant
Mae croeso i chi siarad ag aelod o dîm y Gwasanaethau i Ddysgwyr unrhyw bryd. Gallwn ni eich sicrhau y byddwn ni’n gwneud popeth y gallwn ni i ymateb i’ch pryderon. Rydym yn cydnabod y gall llawer o ffactorau effeithio ar allu dysgwr i astudio, a’r angen i sicrhau bod iechyd a llesiant personol yn flaenoriaeth.
Cymorth i ddysgwyr sydd ag anghenion arbennig
Er y byddwn ni’n gwneud popeth y gallwn i gynorthwyo dysgwyr yn y dosbarth, ar brydiau, bydd angen arweiniad mwy arbenigol.
Byddwn yn falch o'ch cyfeirio at gymorth mwy arbenigol tra byddwch yn cymryd rhan yn unrhyw un o’n cyrsiau.
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, tiwtor, neu bartner – beth bynnag y dymunwch chi! Byddem ni wrth ein bodd pe byddech chi’n rhan o’n gwaith.
Cysylltwch â ni