Cymorth Ariannol
Efallai eich bod yn gymwys i ymgeisio am gymorth ariannol i gefnogi eich dysgu. Bydd y cyfanswm yn ddibynnol ar eich amgylchiadau personol, oed, incwm teuluol a lefel y cwrs rydych yn bwriadu ei astudio.
Os ydych yn astudio un o’n cyrsiau lefel uwch, mae’n bosibl eich bod yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol wrth Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)
Lwfans wythnosol o £30 yw’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (sy’n cael ei dalu bob pythefnos) i’ch helpu chi i dalu am gostau addysg bellach.
Ystod oed: 16-18
Gofynion cymhwyster: Rhaid eich bod yn byw mewn aelwyd sydd ag uchafswm incwm o £20,817, os mai chi yw’r unig berson ifanc sy’n byw ar yr aelwyd, neu uchafswm incwm o £23,077 os oes pobl ifanc eraill yn byw yno. Yn ogystal, rhaid i chi ddiwallu’r meini prawf cenedlaetholdeb a phreswylio.
Gofynion cwrs: Rhaid eich bod yn astudio cwrs Lefel 3 neu is, sy’n rhedeg am o leiaf 12 awr o dan arweiniad bob wythnos, neu am o leiaf 10 wythnos.
Ymgeisio: Ewch i wefan Cyllid Myfyrywyr Cymru er mwyn ymgeisio.
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (GDLLC)
Grant o hyd at £1,500 (sy’n cael ei dalu mewn rhandaliadau unwaith y tymor) yw Grant Dysgu Llywodraeth Cymru sydd â’r nod o annog mwy o bobl i barhau gyda’u haddysg.
Ystod oed: 19+
Gofynion cymhwyster: Rhaid eich bod yn byw mewn aelwyd sydd ag uchafswm incwm o £18,370. Yn ogystal, rhaid i chi ddiwallu’r meini prawf cenedlaetholdeb a phreswylio.
Gofynion cwrs: Rhaid eich bod yn astudio cwrs sy’n arwain at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sydd o leiaf 275 awr o hyd.
Ymgeisio: Ewch i wefan Cyllid Myfyrywyr Cymru er mwyn ymgeisio.
Ewch i wefan Cyllid Myfyrywyr Cymru i gael mwy o wybodaeth am y Lwfans Cynhaliaeth Addysg, Grant Dysgu Llywodraeth Cymru a grantiau a benthyciadau eraill sydd ar gael.
Gronfa Ariannol Wrth Gefn
Gall yGronfa Ariannol Wrth Gefn eich helpu chi gyda chostau cysylltiedig â’ch dysgu os rydych yn wynebu trafferthion ariannol.
Ystod oed:Nid oes unrhyw gyfyngiadau oed i’r cymorth ariannol hwn.
Gofynion cymhwyster: Rhaid eich bod yn byw ar aelwyd sydd ag uchafswm incwm o:
- £16,380 (dim plant)
- £20,818 (un plentyn)
- £23,077 (o leiaf dau o blant)
Gofynion cwrs: Nid oes unrhyw ofynion cwrs ar gyfer y cymorth ariannol hwn.
Ymgeisio: Llenwch ffurflen gais a gofynnwch i’ch tiwtor neu Swyddog Cyflenwi Cwricwlwm wirio’ch tystiolaeth. Yna, rhaid iddynt lofnodi’r ffurflen er mwyn dangos eich bod yn derbyn un o’r budd-daliadau neu gonsesiynau a restrir ar y ffurflen. Os nad ydych yn derbyn y budd-daliadau hyn, ond rydych yn wynebu trafferthion ariannol, llenwch y ffurflen Incwm/Gwariant a darparwch ddau ddarn o dystiolaeth i’w chefnogi.
Dychwelwch pob ffurflen at learner.services@adultlearning.wales. Byddwch yn ymwybodol nad yw’r cymorth ariannol hwn yn ddi ben draw ac nad oes modd ei sicrhau. O ganlyniad, adolygir pob cais fesul achos unigol.
Cymorth Dysgu Ychwanegol
Mae Cymorth Dysgu Ychwanegol ar gael i gefnogi dysgwyr sydd ag anhawsterau dysgu a / neu anableddau dysgu, trwy ddarparu cymorth dynol neu dechengol.
Ystod oed: Nid oes unrhyw gyfyngiadau oed i’r cymorth ariannol hwn.
Gofynion cymhwyster: Mae’r cymorth ar gael i unrhyw un sydd ei angen. Fodd bynnag, nid oes modd ei ddefnyddio ar gyfer cymorth sgiliau sylfaenol neu i ddarparu cymorth ariannol i ddysgwyr.
Gofynion cwrs: Nid oes unrhyw ofynion cwrs ar gyfer y cymorth ariannol hwn.
Ymgeisio: Llenwch ffurflen Contract Dysgwr a gofynnwch i’ch tiwtor neu Swyddog Cyflenwi Cwricwlwm i’w llofnodi. Dychwelwch y ffurflen at learner.services@adultlearning.wales. Rhaid atodi tystiolaeth at y ffurflen gais, sy’n gallu cynnwys:
- Tystysgrif feddygol
- Asesiad proffesiynol
- Asesiad ar ffurf ffurflen angen dysgu unigol
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, tiwtor, neu bartner – beth bynnag y dymunwch chi! Byddem ni wrth ein bodd pe byddech chi’n rhan o’n gwaith.
Cysylltwch â ni