Cymorth ynghylch llesiant i’n dysgwyr
Rydym yn dymuno sicrhau y cewch brofiad cadarnhaol a chael cymaint o fudd ag y bo modd o’ch cwrs. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall oedolion wynebu pob mathau o anawsterau a heriau ar adegau gwahanol yn ystod eu bywyd. Rydym yn ceisio sicrhau ein bod mor anffurfiol a hyblyg ag y bo modd, ac os oes unrhyw un o’n dysgwyr yn profi anawsterau, rydym yn dymuno cael gwybod am hynny.
Gall addysg oedolion fod yn anodd pan wynebir heriau eraill. Rydym yn dymuno sicrhau eich bod yn cyflawni eich potensial llawn, ac yn cael yr holl gymorth sydd ar gael ynghylch llesiant meddyliol. Beth bynnag fo’r anhawster, neu beth bynnag fo’ch cefndir. Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn ymrwymo i ddarparu cymorth cynhwysol i bob un o’n dysgwyr.
Os oes angen unrhyw help arnoch, ffoniwch ni ar 03300 580 845, tecstiwch ni ar 07715 904 304 neu e-bostiwch ni ar gwasanaethaudysgwyr@addysgoedolion.cymru
Gofalu am eich meddwl
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol, efallai y gallwn eich helpu hefyd i fynd i weld cwnselydd, os byddwch yn credu y gallai hyn fod yn ddefnyddiol. Ffurflen Cwnsela Hunangyfeirio (allanol)
Mae llesiant yn cwmpasu llawer o feysydd a materion gwahanol, a gallant oll effeithio ar ein teimladau. Efallai bydd y dolenni canlynol yn ddefnyddiol i ddarparu rhagor o wybodaeth am wella eich llesiant:
Mae gwefan Mind yn cynnwys tudalen sy’n trafod beth yn union yw llesiant meddyliol, beth all effeithio ar ein llesiant, a beth allwn ni ei wneud i ofalu am, a gwella ein llesiant. Mae gwefan y GIG yn awgrymu pum cam a all helpu i wella ein llesiant.
Iechyd meddwl 
Gall ein hiechyd meddwl ddylanwadu’n sylweddol ar ein llesiant.
Mae Mind yn cynnig llawer o wybodaeth am iechyd meddwl a ble gallwch dderbyn cymorth.
Mae’r dudalen hon ar wefan y GIG yn egluro sut gallwch chi gyrchu gwasanaethau iechyd meddwl.
Ymarfer corff
Mae'r Sefydliad Iechyd Meddwl yn cynnig gwybodaeth am sut gall ymarfer corff wella eich iechyd meddwl.
Mae’r dudalen hon ar wefan Mind yn cynnig gwybodaeth am fuddion ymarfer corff, ac mae hefyd yn cynnwys dolenni i’ch helpu i ddewis math o ymarfer corff a sut i gynnwys hynny fel rhan o’ch arferion dyddiol. Gall ioga helpu i wella llesiant hefyd - mae’r dudalen hon ar wefan y GIG yn cynnig rhywfaint o wybodaeth gyffredinol.
Ymwybyddiaeth ofalgar

Efallai y gall ymwybyddiaeth ofalgar helpu i wella eich llesiant.
Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn gallu helpu i wella eich lles. Mae gwefan y GIG yn cynnwys trosolwg cyffredinol o ymwybyddiaeth ofalgar, sut mae’n gallu helpu ein lles a sut y gallwn fod yn fwy gofalgar. Mae gwefan Mind yn cynnwys adran ar ymwybyddiaeth ofalgar, sy’n darparu cyngor ar ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar.
Sgwrsiwch gyda rhywun
Os ydych yn poeni am unrhyw agwedd o’ch cwrs ac yn dymuno trafod pethau yn gyfrinachol gyda rhywun, cofiwch gysylltu â ni, rydym yn barod i wrando.
Ffoniwch ni ar 03300 580 845
Tecstiwch ni ar 07715 904 304
Neu e-bostiwch ni yn gwasanaethaudysgwyr@addysgoedolion.cymru
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu’n aelod – beth bynnag y dymunwch ei wneud, byddem wrth ein bodd eich bod yn rhan o’n gwaith.
Cysylltwch â ni