Canllaw FyNghyfrif
Rydym wedi bod yn gweithio’n galed yn y cefndir i ddatblygu ein nodwedd ar-lein newydd – ‘Fy Nghyfrif’.
Mae Fy Nghyfrif yn caniatáu i chi olygu eich proffil a’ch manylion cysylltu, yn ogystal â’ch galluogi i nodi ym mha iaith yr hoffech chi dderbyn ein negeseuon.
Gallwch chi hefyd weld manylion eich cyrsiau blaenorol, cyrsiau presennol a chyrsiau sydd ar y gweill gyda ni, a bellach, gallwch chi hefyd weld a lawrlwytho eich tystysgrifau ar-lein!*
*Bydd cyrsiau achrededig yn dod yn fuan.
Gobeithio y byddwch chi’n ei hoffi!
Dewiswch broses i ganfod rhagor o wybodaeth
Creu ‘Fy Nghyfrif’ personol
Creu cyfrif gan ddefnyddio cyfrifiadur bwrdd gwaith
Ar ochr dde uchaf ein gwefan, cliciwch ar ddolen ‘Fy Nghyfrif’. Pan fydd y ddewislen lithr yn agor, nodwch y cyfeiriad e-bost yr hoffech chi ei ddefnyddio ar gyfer eich cyfrif. Os nad ydych chi wedi rhoi manylion y cyfeiriad e-bost hwn i ni’n barod, gofynnir i chi gofrestru i gael cyfrif gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost o’ch dewis.
Yna, bydd angen i chi roi manylion eich cyfrif i ni.
Mae’r holl feysydd sydd wedi’i nodi â * yn feysydd gofynnol, ac ni fyddwch chi’n gallu anfon y ffurflen heb lenwi’r rhain, felly cofiwch sicrhau eich bod chi wedi nodi popeth sy’n ofynnol!
Pan fyddwch chi wedi nodi eich manylion, cliciwch y blwch gwrth-SPAM a phwyswch ‘Anfon’.
Creu cyfrif gan ddefnyddio ffôn symudol neu gyfrifiadur llechen
Dewiswch yr eicon dewislen o’r ochr dde uchaf (mae’r ddewislen yn edrych yn debyg i dair llinell ar ben ei gilydd).
Pan fydd y ddewislen yn llithro allan, tapiwch ar ddolen ‘Fy Nghyfrif’. Yna, nodwch y cyfeiriad e-bost yr hoffech chi ei ddefnyddio ar gyfer eich cyfrif. Os nad ydych chi wedi rhoi manylion y cyfeiriad e-bost hwn i ni’n barod, gofynnir i chi gofrestru i gael cyfrif gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost o’ch dewis.
Nawr, bydd angen i chi roi manylion eich cyfrif i ni. Mae’r holl feysydd sydd wedi’u nodi â * yn feysydd gofynnol. Ni fyddwch chi’n gallu anfon y ffurflen heb lenwi’r rhain, felly cofiwch sicrhau eich bod chi wedi nodi popeth sy’n ofynnol!
Pan fyddwch chi wedi nodi eich manylion, cliciwch y blwch gwrth-SPAM a phwyswch ‘Anfon’.
Peidiwch ag oedi! Cychwynnwch arni heddiw!
Mewngofnodi i’ch cyfrif
Mewngofnodi gan ddefnyddio cyfrifiadur bwrdd gwaith
Gallwch chi fewngofnodi ag un clic!
Cliciwch ar ‘Fy Nghyfrif’ a nodwch eich cyfeiriad e-bost yn y ffenestr naid.
Os ydych chi eisoes wedi rhoi manylion cyfeiriad e-bost i ni ac mae wedi’i gofnodi yn ein system, nodwch eich cyfrinair, cliciwch i fewngofnodi a dyna chi – rydych chi wedi mewngofnodi!
Peidiwch â phoeni, os ydych chi wedi anghofio eich cyfrinair, gallwch ei ailosod trwy glicio ar ‘Wedi anghofio cyfrinair’ a dilyn y cyfarwyddiadau sy'n ymddangos.
Mewngofnodi gan ddefnyddio cyfrifiadur llechen neu ddyfais symudol
Dewiswch yr eicon dewislen o’r ochr dde uchaf (mae’r ddewislen yn edrych yn debyg i dair llinell ar ben ei gilydd).
Pan fydd y ddewislen yn llithro allan, tapiwch ar ddolen ‘Fy Nghyfrif’.
Os ydych chi eisoes wedi rhoi manylion cyfeiriad e-bost i ni ac mae wedi’i gofnodi yn ein system, nodwch eich cyfrinair, cliciwch i fewngofnodi a dyna chi – rydych chi wedi mewngofnodi!
Peidiwch â phoeni, os ydych chi wedi anghofio eich cyfrinair, gallwch ei ailosod trwy glicio ar ‘Wedi anghofio cyfrinair’ a dilyn y cyfarwyddiadau sy'n ymddangos.
Golygu eich manylion
Newid eich manylion
Pan fyddwch chi wedi mewngofnodi (gan ddefnyddio eich cyfrifiadur neu eich dyfais symudol), gallwch ddewis ‘Golygu fy manylion’ i wneud unrhyw newidiadau i’ch cyfrif ar sgrin eich cyfrif.
Gallwch chi olygu, addasu neu newid eich manylion yma, pan fyddwch yn dymuno gwneud hynny. Ar ôl gorffen, cofiwch glicio i arbed y newidiadau ar waelod y sgrin.
Eich aelodaeth
Gweld manylion eich aelodaeth
Ar ôl mewngofnodi (gan ddefnyddio eich cyfrifiadur neu eich dyfais symudol), gallwch chi weld manylion eich aelodaeth trwy ddewis ‘Gweld fy aelodaeth’.
Yma, gallwch chi weld eich ID aelodaeth, dyddiad dechrau a diwedd eich aelodaeth, pris a math a statws yr aelodaeth.
Cysylltwch â ni os hoffech wneud unrhyw newidiadau neu adnewyddu eich aelodaeth!
Eich Cyrsiau
Gweld eich Cyrsiau Presennol, Cyrsiau Blaenorol a Chyrsiau sydd ar y Gweill
Gallwch chi weld holl hanes eich cyrsiau gyda ni trwy glicio unwaith a dewis ‘Trosolwg o fy nghyrsiau’ o sgrin eich cyfrif.
Trwy ddewis eitem benodol, er enghraifft, ‘Cyrsiau presennol’, byddwch chi’n gallu gweld manylion eich cyrsiau presennol. Mae ‘Cyrsiau sydd ar y Gweill’ yn cynnwys manylion cyrsiau rydych chi wedi cofrestru i gyfranogi ynddyn nhw, ac mae ‘Cyrsiau Blaenorol’ yn cynnwys manylion cyrsiau rydych chi eisoes wedi’u cwblhau gyda ni.
Os nad ydych chi wedi cofrestru i gyfranogi mewn unrhyw gyrsiau – bydd yr adran hon yn dangos y testun 'Mae’n ddrwg gennym ni, nid ydych chi wedi cwblhau unrhyw gyrsiau!' - peidiwch â phoeni! Pan fyddwch chi wedi cofrestru i gyfranogi yn ein cyrsiau, byddan nhw’n cychwyn ymddangos yn yr adran hon, felly chwiliwch am y manylion yn ddiweddarach.
Cysylltwch â ni i ddysgu rhagor am ein cyrsiau!
Dod yn aelod gyda ni
Gall unrhyw un sy’n cefnogi ein hamcanion ymaelodi â ni neu ddod yn aelod cyswllt: unigolion, dysgwyr, cymdeithasau a sefydliadau. Gall grwpiau o aelodau sefydlu eu canghennau eu hunain sy’n trefnu eu gweithgareddau eu hunain ac yn llywio eu llwybr dysgu eu hunain, a gallwn ni gynorthwyo a darparu tiwtoriaid, er enghraifft.
Rydym yn cynnig aelodaeth am ddim ar hyn o bryd i ddysgwyr newydd a ffioedd hanner pris yn ystod eu hail flwyddyn!
Beth am elwa o’n cynnig i aelodau newydd a chyfranogi yn y gwaith o gynnal a datblygu ein gweledigaeth a’n nodau?
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu’n aelod – beth bynnag y dymunwch ei wneud, byddem wrth ein bodd eich bod yn rhan o’n gwaith.
Cysylltwch â ni