Rydym yn credu yng ngrym dysgu
Gall dysgu rhywbeth newydd, beth bynnag fo’ch oedran neu eich sefyllfa, ddylanwadu’n gadarnhaol ar eich bywyd a hyd yn oed eich galluogi i ddatblygu eich gyrfa mewn maes sy’n bwysig i chi.
Mae eich profiadau yn ystod eich cwrs yn bwysig i Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales, ond mae camau nesaf eich bywyd yn dilyn eich cwrs yn bwysig i ni hefyd. Dyna pam rydym yn cydweithio â Gyrfa Cymru i sicrhau y cewch y cymorth gorau posibl i gyflawni’r amcanion sy’n bwysig i chi o ran canfod swydd.
Cydweithio â Gyrfa Cymru
Mae Gyrfa Cymru yn darparu llawer iawn o wybodaeth am addysg a chyrsiau, gwaith a phrentisiaethau, yn ogystal â gwasanaeth chwilio am swyddi sy’n caniatáu i chi chwilio ac ymgeisio am swyddi a phrentisiaethau ledled Cymru. Rydym yn cydweithio â hwy i sicrhau y cewch y cyfle gorau posibl o ganfod ac ymgeisio am swydd yn dilyn eich profiad o ddysgu fel oedolyn. I ganfod sut allwch chi ddatblygu eich diddordeb, cysylltwch â Gyrfa Cymru neu gofynnwch i'ch tiwtoriaid.
Ffoniwch Gyrfa Cymru ar 0800 028 4844 / 029 2090 6800
Neu e-bostiwch nhw yma
Edrychwch ar wefan Gyrfa Cymru
Fe awn ni â chi ymhellach
'Career Coaching'
Mae’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) wedi lansio 'Career Coaching', sef adnodd ar-lein sy’n helpu i gysylltu darpar fyfyrwyr â’r rhaglen Mynediad i AU sy’n cefnogi eu huchelgeisiau proffesiynol orau.
Mae'r nodweddion allweddol yn cynnwys:
- Asesiadau Gyrfa - i helpu pobl i ddysgu mwy am eu hunain a chael awgrymiadau am yrfaoedd ar sail eu diddordebau a’u sgiliau
- Data cyfredol ar gyflogau, cyfleoedd am gyflogaeth a llwybrau dilyniant cyffredin
- Adnodd chwilio am gyrsiau Mynediad i AU a fydd yn eich helpu i gyrraedd eich nodau gyrfaol
- Adeiladwr CV i greu CV proffesiynol a modern
Ymwelwch gyda'r wefan Mynediad i AU neu cymerwch yr asesiad yma (yn Saesneg yn unig).
Ansicr ynghylch y camau nesaf?
Sgwrsiwch gyda’ch tiwtor neu eich tîm cymorth i fyfyrwyr i drafod beth sydd ar y gweill. Efallai bod gennym rhagor o gyrsiau y gallwn eu hargymell i chi, neu gallwn eich helpu i gysylltu â’r bobl briodol a all ddatblygu eich diddordeb yn yrfa.
Ffoniwch ni ar 03300 580 845 i gael rhagor o gymorth
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu’n aelod – beth bynnag y dymunwch ei wneud, byddem wrth ein bodd eich bod yn rhan o’n gwaith.
Cysylltwch â ni