Hunangyfeirio ar gyfer cwnsela

Mae iechyd meddwl a lles ein dysgwyr yn bwysig iawn. Rydym eisiau eich helpu i gael mynediad i’r cymorth sydd ei angen arnoch, pan fydd ei angen arnoch.
Os hoffech gyfeirio eich hun am sgwrs gychwynnol gydag un o’n cwnselwyr profiadol, cwblhewch y ffurflen atgyfeirio a byddwn yn mynd â hi oddi yno.

Ffurflen Cwnsela Hunangyfeirio (allanol)

Os ydych chi'n teimlo y gallech chi geisio lladd eich hun, neu os ydych chi wedi niweidio'ch hun yn ddifrifol, rydych chi angen help meddygol ar frys. Plîs:
• ffoniwch 999 am ambiwlans
• ewch yn syth i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys, os gallwch chi
• neu ffoniwch eich tîm argyfwng lleol, os yw eu rhif gennych chi.

Os oes angen cefnogaeth arnoch mae yna nifer o linellau cymorth Cenedlaethol lle mae pobl yn barod i wrando. . .
• Y Samariaid - 116 123
• Llinell Gymorth C.A.L.L. – 0800 132 737 neu anfonwch neges destun “Help” i 81066
SANEline – 0300 304 7000
• Llinell Gymorth CALM – 0800 58 58 58
• Llinell Gymorth  24-awr Refuge – 0808 2000 247  Llinell Gymorth Genedlaethol Trais yn y Cartref
The Mix – 0808 808 4994 (Cymorth Hanfodol i rai dan 25 oed)
Papyrus – 0800 068 41 41 neges destun 07860 039967 (Cefnogaeth i rai dan 35 oed sy'n teimlo'n hunanladdol)

A ydych chi’n gwybod am ein Cynllun Hunangyfeirio Cwnsela Dysgwyr?

Cyflwynwyd y cynllun Hunangyfeirio Cwnsela Dysgwyr ym Medi 2020, ac mae’n caniatáu i unrhyw un o’n dysgwyr geisio a chyrchu cymorth. Gall dysgwyr lenwi ffurflen hunangyfeirio cwnsela a gaiff ei chyflwyno a’i hadolygu gan ein haelodau staff hyfforddedig a phrofiadol, Tracy Fletcher a Gail Davies. Bydd Tracy neu Gail yn cysylltu â’n dysgwyr yn y lle cyntaf ar ôl derbyn cais. Byddant yn sefydlu pa gymorth a allai fod yn ofynnol ar gyfer ein dysgwyr, a lle bo hynny’n berthnasol, cyfeirio dysgwyr at y cymorth priodol; gallai hynny gynnwys eu cyfeirio i gael cwnsela.

 

Tracy Fletcher

Ymunais ag Addysg Oedolion Cymru │Adult Learning Wales fel Tiwtor yn 2015. Cyn hynny, roeddwn i wedi bod yn cyfuno tair swydd – Therapydd Iaith a Lleferydd, Cwnselydd a Thiwtor. Fe wnes i roi’r gorau i fod yn Therapydd Iaith a Lleferydd i ganolbwyntio ar gwnsela ac addysgu. Fel tiwtor, byddaf yn rhedeg cyrsiau cwnsela a chyrsiau datblygiad personol, e.e. cydnerthedd, lles emosiynol, a magu hyder. Ers cychwyn gweithio i’r sefydliad, rwyf wedi ennill cymhwyster IQA (Aseswr Ansawdd Mewnol), ac erbyn hyn, rwy’n addysgu ac yn asesu cyrsiau. Yn 2020, roeddwn i’n rhan o’r tîm a sefydlodd y gwasanaeth sgrinio cwnsela, rhywbeth yr wyf i’n falch iawn ohono. Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim i unrhyw ddysgwr sy’n gwneud un o gyrsiau Addysg Oedolion Cymru. Rwy’n credu’n angerddol mewn cwnsela a dylai fod ar gael i bawb yn fy marn i. Fy arwyddair yw “Byddwn yn mynd i’r gampfa i gadw ein hunain yn iach yn gorfforol a dylem ni fynd i sesiynau cwnsela i gadw ein hunain yn iach yn feddyliol!” Er budd fy lles fy hun, byddaf yn mwynhau darllen, crosio, beicio a threulio amser gyda’r teulu. Byddaf hefyd yn mwynhau mynd i wahanol lefydd yn ein fan gwersylla o’r enw “Olive”. Rwy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd, ac ar hyn o bryd, rwy’n ystyried fy mod yn un o ddysgwyr y Gymraeg. Rwy’n gwneud fy ngorau glas i geisio defnyddio iaith Cymru.

 

Gail Davies

Yn dilyn cefndir mewn Gwaith Cymdeithasol, yn 2005, dychwelais i addysg, a chwblheais radd B.A. (Anrhydedd) mewn Astudiaeth Cwnsela a’r Gymdeithas wedi’i dilyn gan fy nghymhwyster TAR yn 2009. Ymunais ag Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales (Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yn flaenorol) yn 2009 fel Tiwtor Addysg Gymuned, ac addysgais amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys yr Iaith Gymraeg/Hanes Cymru, Seicoleg, Cymdeithaseg, Cam-drin Domestig a Chrefftau. Dros y blynyddoedd, rwyf i wedi gweithio fel Tiwtor a Swyddog Datblygu Cymunedol ar amrywiaeth o brosiectau dan nawdd Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales (Cymdeithas Addysg y Gweithwyr). Rwy’n dal i weithio fel tiwtor yn y gymuned, ac yn Nhachwedd 2021, ymunais â thîm y cynllun hunangyfeirio cwnsela dysgwyr, ac fel rhan o’r gwaith hwnnw, rwy’n cynorthwyo i sgrinio cyfeiriadau a gwneud cyswllt cychwynnol â dysgwyr sy’n ceisio cymorth a chefnogaeth. Cefais fy ngeni yn Ystradgynlais a fy magu yng Nghwmtawe, ac rwy’n byw yn Nhredegar ers 25 mlynedd. Cymraeg yw fy mamiaith. Mae fy niddordebau yn cynnwys materion cyfoes, hanes Cymru, darllen, ymarfer myfyrdodau Ymwybyddiaeth Ofalgar a chrefftau.

Edrychwch ar ein cyrsiau

Ymunwch â ni

Dewch yn ddysgwr, tiwtor, neu bartner – beth bynnag y dymunwch chi! Byddem ni wrth ein bodd pe byddech chi’n rhan o’n gwaith.

Cysylltwch â ni
expand_less