
Sgiliau Hanfodol ac ESOL
Gall sgiliau Saesneg a rhifedd achosi rhwystrau enfawr i gyflogaeth a gallant achosi anawsterau gartref ac yn y gwaith. Os ydych yn siaradwr Saesneg cynhenid neu'n newydd i'r iaith, gall ein cyrsiau ESOL a sgiliau Sylfaenol helpu i ddatblygu'ch rhifedd a'ch llythrennedd gan eich arfogi gyda'r sgiliau sydd eu hangen arnoch yn eich bywyd.

Ieithoedd
Os ydych yn dysgu am resymau gwaith neu bersonol, neu dim ond am hwyl, gallwn gynnig cyrsiau iaith ar lefelau gwahanol yn ôl eich angen a'ch gallu.

Celf, Crefft a Dylunio
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau celf, crefft a dylunio mewn lleoliadau cymunedol ledled Cymru.

Iechyd a Diogelwch
Mae arferion Iechyd a Diogelwch yn hanfodol yn y gweithle. Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau sy'n eich galluogi i ddewis y cyrsiau iechyd a diogelwch mwyaf priodol ar gyfer eich gweithle.

Sgiliau Digidol/ TG
Wrth i gwmnïau ddod yn fwy dibynnol ar gyfrifiaduron, ystyrir fod TG a llythrennedd cyfrifiadurol yn sgiliau pwysig i’w meddu. Cynllunnir ein cyfres o gyrsiau TG i helpu i ddatblygu'ch gwybodaeth a'ch sgiliau mewn TG a chyfrifiadura, gyda ffocws ar ddatblygu sgiliau sy'n gysylltiedig gyda’r byd gwaith.
Rydym yn cynnig math unigryw o addysg i oedolion yn y gymuned. Gan weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill, ein nod yw cefnogi oedolion sydd am ddatblygu sgiliau a chael diddordebau newydd.
Mewn gwirionedd mae'r dull hamddenol anffurfiol i ddysgu wedi bod mor boblogaidd ni yw’r darparwr mwyaf dysgu oedolion yn y gymuned yng Nghymru.
Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i ddysgu mewn awyrgylch gyfeillgar a chydweithredol. Anogir cyfleoedd cyfartal a gall myfyrwyr helpu i benderfynu ar amcanion y cwrs.
Mae ehangder y cyrsiau yn amrywio ac yn ehangu o hyd.
Eich cefnogi bob cam o’r ffordd
Mae cael cymorth a chefnogaeth ar hyd y ffordd yn bwysig. Cymorth i Ddysgwyr yw ein ffocws, ac mae'n sicrhau bod eich holl anghenion yn cael eu diwallu a'ch cwestiynau'n cael eu hateb. Nid oes rhaid i chi fyth deimlo ar eich pen eich hun neu'n bryderus - byddwn yn eich cefnogi bob cam o'r ffordd.
