Math o Gwrs
Astudiaethau Undeb Llafur

Rydym yn gweithio gyda gwahanol undebau ledled Cymru. Mae ein holl diwtoriaid yn undebwyr llafur profiadol sy'n cael y wybodaeth ddiweddaraf am faterion yn y gweithle. Felly byddwch yn cael y profiad dysgu gorau gan y bobl sy'n gwybod.

Dysgu yn y Gweithle

Rydym yn darparu ystod eang o gyrsiau a gaiff eu cynnal yn ein canolfannau dysgu, yn eich gweithle neu trwy gyfrwng sesiynau ar-lein dan arweiniad tiwtoriaid. Datblygwch eich sgiliau a magwch eich hyder i wella eich dull o weithio neu er mwyn cyflawni eich nodau.

Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

A oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda phobl ifanc 11 - 25 mlwydd oed? Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau i’ch cynorthwyo i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio fel gweithiwr ieuenctid yng Nghymru.

Addysg a Hyfforddiant

Rydym yn cynnig ystod lawn o gymwysterau mewn Addysgu, Dysgu a Datblygu a Chymorth Dysgu. Mae’r cymwysterau yn cynnwys meysydd fel Asesydd a Sicrhau Ansawdd, Addysg a Hyfforddiant, Cymorth Dysgu ac Ymarferydd Sgiliau Hanfodol.

Gwasanaethau Dysgu Achrededig

Beth ydyw a sut y gall fod o fudd i mi neu fy musnes?
Rydym yn cynnig gwasanaeth achredu i sefydliadau sy'n darparu neu'n bwriadu darparu dysgu achrededig.

Rydym yn Ganolfan Gwesteiwr Agored Cymru. Mae hyn yn golygu bod gennym drefniant partneriaeth gydag Agored Cymru i alluogi sefydliadau nad ydynt efallai am ddod yn Ganolfan gydnabyddedig Agored Cymru i gael achrediad Agored Cymru drwom ni. Gallwn eich helpu i adeiladu rhaglen achrededig ar gyfer eich timau, dysgwyr neu fuddiolwyr trwy Agored Cymru.

Gall unedau achrededig hefyd gyfuno’n gymwysterau fel Cymwysterau Addysg Gysylltiedig â Gwaith Agored. Gall yr unedau hyn adeiladu i sbarduno dyfarniad, dyfarniad estynedig a thystysgrif. Unedau annibynnol, unedau sy'n ffurfio cymhwyster.

Cysylltwch â ni
 
 
expand_less