Bae Colwyn
Rhaglen Cyrsiau TU 2017-2018
Lleoliad:
Porth Eirias, Promenâd, Bae Colwyn LL29 8HH
Amser y Cwrs:
9.15 i 16.45
Tymor yr Hydref 2017Awtistiaeth a'r Gweithle, Dydd Mawrth 3ydd a dydd Mercher 4ydd Hydref Diploma mewn Cyfraith Cyflogaeth, 3 6 Iau o 19 Hydref 2017
Tymor y Gwanwyn 2018Awtistiaeth a'r Gweithle, Dydd Mawrth 13eg a dydd Mercher 14eg Chwefror 2018
Os ydych chi newydd gael eich penodi'n gynrychiolydd diogelwch, dyma'r cwrs sylfaenol hanfodol i chi. Mae iechyd a diogelwch yn y gwaith yn fater pwysig ar gyfer pob gweithiwr. Mae ymchwil yn dangos bod gan weithleoedd sydd â chynrychiolwyr iechyd a diogelwch o undebau llafur gyfradd is o lawer o ddamweiniau. Bydd y cwrs hwn yn darparu sylfaen drylwyr mewn materion iechyd a diogelwch ac yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr newydd drafod materion yn ymwneud ag iechyd a diogelwch yn y gwaith.
Mae Cynrychiolwyr Dysgu Undeb Cam 1 yn cyflwyno rôl Cynrychiolydd Dysgu’r Undeb (ULR). Dysgwch am: Swyddogaethau a chyfleusterau ULR; trefniadaeth y gweithle a dysgu'r undeb; gweithle dysgu a sgiliau yn y gweithle; nodi anghenion dysgu; hyrwyddo dysgu - dull yr undeb llafur; adolygu eich aelodaeth; dysgu ‑ rhwystrau a chymhellion; cyfleoedd dysgu a darpariaeth; strwythurau a threfniadaeth; yr undeb.
Prosesu geiriau ar gyfer undebwyr llafur ‑ Mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio ar gyfer cynrychiolwyr sy'n dymuno cynhyrchu taflenni, cylchlythyrau a phosteri fel rhan o'u dyletswyddau. Byddwch yn dysgu sut i fformadu dogfennau, sut i ychwanegu lluniau a defnyddio dulliau gwahanol i wella eich gwaith.
Bydd y cwrs hwn yn helpu cynrychiolwyr i: ddatblygu dealltwriaeth well o iechyd meddwl yn gyffredinol; datblygu dealltwriaeth well o waith sy'n ymwneud â materion iechyd meddwl; datblygu dealltwriaeth o gyfraith cydraddoldeb a sut mae'n berthnasol i bobl gyda materion iechyd meddwl; cynhyrchu cynllun gweithredu i weithio gydag aelodau a chyflogwyr i ddatblygu strategaeth ar gyfer materion iechyd meddwl.
Taenlenni ar gyfer undebwyr llafur ‑ Bydd y cwrs byr hwn yn eich tywys drwy'r sgiliau sylfaenol o greu taenlen i gynhyrchu graffiau i wella cyflwyniadau. Mae'n haws cadw'n gyfredol â chofnodion aelodaeth, gwaith achos a mapio canghenni wrth ddefnyddio taenlenni.
Gofyniad craidd yn Rheoliadau HASAW yw bod rhaid i'r cyflogwyr gynnal asesiad risg. Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i gynrychiolwyr diogelwch i wneud asesiadau risg yn berthnasol i strategaethau ar gyfer gwella iechyd a diogelwch yn y gwaith.
Hyfforddiant ar gyfer cynrychiolwyr cydraddoldeb undebau llafur yn y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Bydd y cwrs newydd hwn yn edrych ar:
- Rôl y cynrychiolydd cydraddoldeb sector cyhoeddus yng Nghymru
- Y Ddeddf Cydraddoldeb
- Nodweddion Gwarchodedig
- Gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol
- Asesiadau Effaith Cydraddoldeb
- Dyletswyddau Cyffredinol y Ddeddf Cydraddoldeb
- Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol yng Nghymru
- Astudiaethau achos cydraddoldeb
- Newidiadau diweddar i'r Ddeddf Cydraddoldeb
Bydd y cwrs hwn yn helpu cynrychiolwyr i wneud y canlynol:
- Deall gweithdrefnau disgyblu a chwyno
- Deall cod ymarfer ACAS
- Nodi rhai o'r rhesymau dros faterion disgyblu a chwynion sy'n codi yn y gwaith
- Nodi dull strwythuredig i gymryd nodiadau a chyfweld
- Ymarfer adeiladu achosion
- Defnyddio strategaeth wedi'i pharatoi yn briodol
Mae'r cwrs hwn yn edrych yn fanwl ar: weithio gyda phartneriaid, darparwyr a chyflogwyr ar ddysgu; archwilio mentrau a blaenoriaethau dysgu llywodraeth ac undebau dysgu mentrau; systemau addysg a manteisio ar ddysgu; cefnogi dysgwyr gyda gwybodaeth ac arweiniad
Mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio ar gyfer cynrychiolwyr undebau sydd eisoes wedi cwblhau cwrs Cynrychiolwyr Undeb Cam 1 TUC neu gwrs cyfatebol gan ei undeb. Bydd yn helpu'r cynrychiolwyr i ddeall yr ystod lawn o gyfraith sy'n effeithio ar bobl sy'n gweithio gan gynnwys amser cyfleustra, cydraddoldeb, diswyddo, tribiwnlysoedd cyflogaeth, diswyddo a TUPE, ymhlith eraill.
Datblygwyd y cwrs hwn i godi ymwybyddiaeth o drais yn y cartref a'i effaith ar aelodau yn y gweithle. Nid yw hwn yn gwrs i hyfforddi cynrychiolwyr i gwnsela aelodau ond yn lle hynny, bydd yn cyfeirio'r cynrychiolwyr at y rhai hynny sy’n gallu. Bydd y cwrs newydd hwn yn edrych ar y canlynol:
- Datblygu dealltwriaeth o drais yn y cartref
- Ystyried sut y gallai effeithio ar aelodau yn y gwaith
- Penderfynu sut y gallant weithio gyda chyflogwyr i greu amgylchedd lle y gall rheini sy'n profi trais yn y cartref siarad a derbyn cefnogaeth
- Nodi eu rôl, a rolau eraill, wrth gefnogi aelodau
Cyflwyniadau TGCh ar gyfer undebwyr llafur ‑ Gall defnyddio meddalwedd cyflwyno cyfrifiadurol helpu i dawelu nerfau ac edrych yn broffesiynol. Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn cynhyrchu cyflwyniad aml sleidiau.
Mae Canser yn fater i,r gweithle. Mae bellach yn effeithio ar un o bob tri o bobl. Bydd y cwrs hwn yn helpu cynrychiolwyr undeb i: archwilio problemau i'w hwynebu os bydd aelod o'r undeb yn cael diagnosis o ganser; Dod yn gyfarwydd â hawliau cyflogaeth a budd‑daliadau a sut y gellir eu defnyddio i gynghori a rhoi gwybodaeth i aelodau
Bydd y cwrs yn helpu cyfranogwyr i wneud y canlynol:
- diffinio ac adnabod bwlio
- nodi trefniadau gwaith a materion staff sy'n cyfrannu at fwlio yn y gweithle
- deall sut mae egwyddorion cyfraith cyflogaeth a deddfwriaeth iechyd a diogelwch yn berthnasol i fwlio yn y gweithle
- gwneud cyflogwyr yn ymwybodol o'r hyn y gellir ei wneud i gydnabod ac i gael gwared ar fwlio yn y gweithle
- datblygu strategaeth gweithle i hysbysu aelodau am beth i'w wneud os ydynt yn dyst i fwlio neu'n dioddef bwlio
- datblygu polisi gweithle ar fwlio yn y gwaith
- deall bod bwlio yn effeithio ar bawb a gellir ei weld yn y cyd‑destun ehangach y tu hwnt i hynny yn fater iechyd a diogelwch.
Mae'r Diploma hwn yn rhoi sylfaen fanwl yn y gyfraith sy'n ymwneud â gwaith a chyflogaeth. Fel arfer bydd disgwyl i gyfranogwyr fod wedi cwblhau'r cwrs Cynrychiolwyr Undeb Cam 1 a'r Dystysgrif mewn Cyfraith Cyflogaeth neu gyrsiau cyfatebol. Byddwch yn dysgu am y gyfraith gyfunol a chyfraith unigol. Bydd y cwrs yn helpu i ddatblygu eich sgiliau ymchwil cyfreithiol a'ch sgiliau eiriolaeth.
Mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio ar gyfer cynrychiolwyr iechyd a diogelwch sydd eisoes wedi cwblhau cwrs Iechyd a Diogelwch Cam 1 TUC neu gwrs undeb cyfatebol. Mae'r cwrs yn helpu cynrychiolwyr i nodi, atal a rheoli risgiau, gan helpu i greu gweithle mwy diogel ac iach. Mae'n annog cynrychiolwyr i gynnwys aelodau mewn materion diogelwch drwy ddatblygu dull cyfunol i iechyd a diogelwch. Mae'n amlinellu'r gyfraith a gwybodaeth iechyd a diogelwch diweddaraf, gan alluogi cynrychiolwyr i roi newid go iawn ar waith yn y gweithle.
Bydd y cwrs hwn yn mynd i'r afael ag elfennau allweddol o ymwybyddiaeth dyslecsia a'r ddeddfwriaeth allweddol sy'n ymwneud â dyslecsia. Bydd yn helpu cynrychiolwyr dysgu undebau a chynrychiolwyr eraill i: ddysgu sut i gefnogi unigolion gyda dyslecsia y tu mewn i'r gweithle a thu hwnt; deall yr effaith ar gyflogwyr a sefydliadau; adnabod materion allweddol sy'n effeithio'r rhai hynny gyda dyslecsia a gallu darparu cyngor a chefnogaeth ymarferol.
Bwriad y cwrs hwn yw helpu cynrychiolwyr i ddeall ymchwiliad i ddamwain a'i roi ar waith. Mae'r cwrs wedi'i rannu]n chwe phrif gweithgaredd.
- Deddfwriaeth gyfredol ac arferion cyfredol yn y gweithle
- Deall safbwyntiau gwahanol rheoli, undebau a'r gweithlu
- Yr ystod o wybodaeth sydd angen ei chasglu ar ôl damwain
- Y gwahaniaethau rhwng achosion gwreiddiol/uniongyrchol a sylfaen damweiniau
- Sut i osgoi damweiniau tebyg rhag digwydd eto
- Rhoi mesurau rheoli risg ar waith
Bydd y cwrs yn cynnwys yr amcanion canlynol, a fydd yn helpu cynrychiolwyr i gefnogi aelodau yn eu gweithle i:
- Nodi prif achosion a symptomau straen yn y gweithle
- Nodi gofynion cyfreithiol rheoli straen
- Datblygu syniadau o beth y gellir ei gynnwys ym mholisi rheoli straen cyflogwr
- Adolygu Pecyn Cymorth Safonau Rheoli Straen HSE
- Nodi ffynonellau o gymorth i aelodau
Cynlluniwyd y cwrs dau ddiwrnod hwn ar gyfer cynrychiolwyr undebau llafur a'i nod yw creu ymwybyddiaeth well o gyflyrau'r sbectrwm awtistiaeth (ASC) a niwroamrywiaeth yn y gweithle. Mae'r cwrs wedi'i anelu at gynrychiolwyr undebau llafur o bob gweithle ac nid oes angen unrhyw wybodaeth na phrofiad blaenorol.Nod y cwrs yw:
- Creu ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth a chyflyrau'r sbectrwm awtistiaeth (ASC)
- Helpu cynrychiolwyr i ystyried amryw o ffactorau gweithle a allai gael effaith negyddol ar weithwyr gyda ASC ac ar weithwyr a allai fod yn gofalu am bobl ag awtistiaeth
- Ystyried arferion ac amgylcheddau yn y gweithle a allai arwain at wahaniaethu uniongyrchol neu anuniongyrchol yn erbyn pobl gydag ASC neu weithwyr sy'n gofalu am bob gydag ASC
- Ystyried arfer gorau ar gyfer gweithleoedd ac undebau wrth fynd i'r afael â materion yn ymwneud ag ASCs
Bydd y cwrs undydd hwn yn cyflwyno cynrychiolwyr presennol i'r cysyniad o ddefnyddio eu sgiliau er budd eu cymuned ddaearyddol fel y maen nhw wedi'i wneud yn eu gweithle. Y pynciau sy'n cael sylw yw:
- Tebygrwydd a gwahaniaethau rhwng dysgu yn y gymuned a Dysgu yn y Gweithle
- Sgiliau trosglwyddadwy o Gynrychiolwyr Undeb i Gynrychiolwyr Cymunedol
- Anghydraddoldebau sy'n achosi rhwystrau i ddysgu
- Partneriaid cymunedol
- Rhannu adnoddau cymunedol ac adnoddau yn y gweithle
- Gwerthuso cryfderau a gwendidau wrth drafod gyda rheolwyr
- Nodi nodweddion allweddol cytundebau gweithdrefnol
- Nodi pa sgiliau mae cynrychiolwyr eu hangen i drafod yn effeithiol gyda chyflogwyr
- Crynhoi'r prif bwyntiau o ran paratoi ar gyfer cyfarfod trafod gyda rheolwyr
- Datblygu tactegau trafod.
Am gyfnod rhy hir, mae'r menopos wedi'i ystyried fel mater 'preifat' ac mae nifer o gyflogwyr wedi bod yn araf wrth gydnabod y gallai merched sy'n mynd drwy'r menopos fod angen ystyriaethau arbennig neu roi addasiadau ar waith. O ganlyniad anaml iawn y bydd yn cael ei drafod yn agored ac mae nifer o reolwyr nad ydynt yn meddu ar yr ymwybyddiaeth o'r materion dan sylw. Mae hyn yn golygu bod llawer o ferched yn teimlo bod rhaid iddynt guddio eu symptomau ac efallai y byddant yn llai tebygol o ofyn am addasiadau a allai eu helpu. Bydd y cwrs newydd hwn yn cynnig offer gwerthfawr i'r cynrychiolydd ar ddelio â materion sy'n codi o'r menopos. Bydd yn rhoi sylw i ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb a chanllawiau ymarferol i gynrychiolwyr wrth edrych ar addasiadau rhesymol. Dyluniwyd y cwrs hwn ar gyfer yr holl gynrychiolwyr a'r holl rywiau. Bydd Pecyn Cymorth Menopos Cymru sydd yn becyn newydd yn ganolog i'r cwrs.
Mae’r holl gyrsiau ar gael ar gais... Oes gennych chi gr%p o gynrychiolwyr yn eich cangen/gweithle sydd angen hyfforddiant mewn lle neu ar ddyddiad neu bwnc nad ydynt wedi'u rhestru uchod? Cofiwch ein bod yn gallu trefnu cyrsiau ychwanegol ar gais ar gyfer grwpiau o gynrychiolwyr. Cysylltwch â Thim Addysg TUC Addysg Oedolion Cymru am wybodaeth bellach ac i drafod eich anghenion hyfforddiant. Enghreifftiau o cyrsiau byr 2‑3 diwrnod eraill y gallwn eu rhedeg ar gyfer undebau/grwpiau o gynrychiolwyr ar gais: Sgiliau cynrychiolwyr undeb
- Ymdrin â Gwaith Achos
- Delio â Diswyddiadau
- TUPE
- Trefnu Gweithwyr Agored i Niwed (gweithwyr mudol a gweithwyr asiantaeth)
- Cyflwyniad i Bensiynau
- Ffrâm Ddringo ar gyfer Cynrychiolwyr Dysgu Undebau
- Prentisiaethau
- Delio â Diswyddiadau ar gyfer Cynrychiolwyr Dysgu Undebau
- Cynrychiolwyr Gwyrdd (Undebau Llafur a'r Amgylchedd)
- Cyflwyniad i Reoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
- Asesiad Risg
- Codi a Chario
- Anhwylderau Cyhyrysgerbydol
- Mynd i'r Afael â Straen yn y Gweithle
- Mynd i'r Afael â Hiliaeth
- Hyrwyddwyr Anabledd yn y Gwaith
- Gwrthsefyll y Dde Eithaf
- Allan yn y Gwaith
Ceisiadau a Chysylltiadau
Ffurflen Gais (Dogfen Word)
01248 363940
tuccourseinfo@addysgoedolion.cymru
Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales, Bryn Menai, Heol Caergybi, Bangor LL57 2JA
Siaradwch â Mair Owen,
Gweinyddwr
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu’n aelod – beth bynnag y dymunwch ei wneud, byddem wrth ein bodd eich bod yn rhan o’n gwaith.
Cysylltwch â ni