Ysbrydoli! Enwebiadau Gwobr 2018 - Cyngor Sir y Fflint Streetscene
11-Mai-2018
Daeth adran Streetscene Cyngor Sir y Fflint yn barter i undeb Unite ac Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales er mwyn creu cyfle dysgu a fyddai’n gwneud gwahaniaeth yn y gweithle.
Nod y prosiect oedd helpu ac annog cyflogeion i ddeall goblygiadau ac arwyddocâd eu rôl o ran cadw eu hunain a’i gilydd yn ddiogel yn y gwaith, gwerthuso polisïau a phrosesau ac ymrwymo i wneud gwelliannau yn y gweithle.
Sicrhaodd y cyngor bod pob un o gyflogeion Streetscene yn cael sesiwn gweithdy gan sicrhau bod adnoddau a logisteg yn eu lle i alluogi iddynt fod yn bresennol. Er bod y prosiect yn dal i fynd rhagddo, mae’r dysgwyr yn gallu gweld bod hwn yn gyfle i’w llais gael ei glywed ac iddynt ddylanwadu ar newidiadau yn eu gweithle.
Mae’r prosiect yn esiampl glir o sut gall gweithio mewn partneriaeth helpu i greu cyfleoedd dysgu gwych i unigolion a busnesau fel ei gilydd. Eisoes gwelwyd cynnydd yn yr adroddiadau damweiniau agos sy’n cael eu derbyn a nodwyd y gellid gwella’r gweithdrefnau adrodd yn ôl.
Hefyd gellir gweld gwelliannau yn niwylliant y gweithle a’r ymgysylltu â’r gweithlu gydag un dysgwr yn dweud, ‘mae’r cwrs yn gwneud i chi feddwl am eich camau gweithredu a’ch ymddygiad yn y gwaith’. Bydd Streetscene yn parhau â’i waith yn awr ac mae wedi gofyn i’r undebau edrych yn fanylach ar y syniadau a’r materion a godwyd gan y dysgwyr yn ystod eu hyfforddiant.
This course is a great example of us working in partnership. To work with us, talk to us today!
[email protected] / 03300 580845
Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales working in partnership across Wales.
Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Cymorth a Chefnogaeth