Ysbrydoli! Enwebiadau Gwobr 2018 - Grŵp Drama Pontardawe

11-Mai-2018
Share

Mae Grŵp Drama Pontardawe’n gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Gelfyddydau Pontardawe ac Addysg Oedolion Cymru|Adult Learning Wales er mwyn darparu lleoliad creadigol i unigolion ag anghenion dysgu dwys, gan fynd i’r afael ag ynysu a hybu annibyniaeth

Ffurfiwyd y grŵp yn wreiddiol i ddarparu amgylchedd diogel heb feirniadaeth ble gall dysgwyr fynegi eu hunain yn rhydd a lle ceir cyfleoedd cyfartal i unigolion ddisgleirio. Mae’r ddarpariaeth yn cael ei harwain yn llwyr gan y dysgwyr a thrafodir syniadau’n agored a’u datblygu os ydynt yn ymarferol. 

Mae hyn yn ychwanegu at yr ymdeimlad mawr o gyflawni mae’r dysgwyr yn ei gael, ynghyd â hybu iechyd a lles positif a chefnogi unigolion na fyddent o reidrwydd yn cael y cyfle fel arall. Gellir crynhoi llwyddiant y grŵp gydag adborth a gafwyd gan y gwasanaethau cymdeithasol, cynorthwywyr personol, teuluoedd a gweithwyr cefnogi. 

Mae un darn o adborth yn crynhoi gwerth y grŵp: ‘Mae’r canlyniadau o ran sgiliau a hwb i hyder y dysgwyr yn gwbl glir yn y sioeau diwedd tymor a gyflwynwyd gan y grŵp. Yn aml iawn mae’r props yn cael eu gwneud gan grwpiau celf y mae aelodau’r grŵp drama’n mynd iddynt ac weithiau bydd y cyfranogwyr eu hunain yn chwilio am y gerddoriaeth. Mae’r cysylltiadau hyn yn dod â’r gymuned ehangach i mewn ac yn creu mwy o ymwybyddiaeth ac yn helpu pobl i dderbyn bywydau pobl sydd â heriau anabledd amrywiol. Mae’r manteision yn llawer mwy pellgyrhaeddol ac yn llawer mwy na dim ond llwyddo mewn profion a chwblhau’r cwrs’. 


Mae'r cwrs hwn yn enghraifft wych ohonom yn gweithio mewn partneriaeth. I weithio gyda ni, siaradwch â ni heddiw!
Info@adultlearning.wales / 03300 580845

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn gweithio mewn partneriaeth ledled Cymru.

 

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Fideo Cefnogi

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Cymorth a Chefnogaeth
expand_less