Wythnos Addysg Oedolion (18 – 24 Mehefin 2018)
04-Mehefin-2018Yr Wythnos Addysg Oedolion yw gŵyl dysgu flynyddol y Deyrnas Unedig. Bellach yn cael ei chynnal mewn dros 55 o wledydd ym mhedwar ban byd, bob blwyddyn gwelwn dros 10,000 o oedolion yng Nghymru yn cymryd rhan yng ngweithgareddau’r Wythnos Addysg Oedolion.
Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth o werth addysg oedolion, dathlu llwyddiannau dysgwyr a darparwyr, ac ysbrydoli mwy o bobl i ddarganfod sut y gall dysgu newid eu bywydau mewn modd cadarnhaol.
Cyflawnir hyn drwy weithio gyda llu o sefydliadau preifat a chyhoeddus i hyrwyddo digwyddiadau blasu, gweithgareddau allgymorth lleol a chyrsiau byr rhad ac am ddim i ysgogi oedolion ar draws y wlad i ddychwelyd i ddysgu.
Cynhelir Wythnos Addysg Oedolion eleni yn ystod 18-24 Mehefin 2018 a chaiff gweithgareddau eu digwyddiadau eu cyflwyno drwy gydol mis Mehefin.
Am ragor o wybodaeth, gwelwch ein storiau dysgwyr neu ymweld gwefan Sefydliad Dysgu a Gwaith.
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Cymorth a Chefnogaeth