Etholir Dysgwyr i’r Cyngor
17-Gorffennaf-2018
Etholir Dysgwyr i’r Cyngor
Gydag aelodau’r dysgwyr ar ein Cyngor wedi sefyll lawr yn ddiweddar, cododd gyfle i ddau o ddysgwyr newydd eistedd ar y Cyngor trwy bleidlais agos.
Bu tri enwebiad, ac yn y pen draw etholwyd Jenni Jones-Annetts a Stephen Nicholls fel y cynrychiolwyr newydd dros ddysgwyr.
Mae Jenni yn weithgar iawn yn ein cangen yng Nghaerffili a bu hi’n gadeirydd CAG De Cymru rhai blynyddoedd yn ôl. Mae gan Stephen llawer o brofiad ym meysydd arian i fyfyrwyr, cyllido a llywodraethiant yn addysg uwch trwy ei amser yn gweithio i Lywodraeth Cymru.
Yn unol gydag aelodau eraill y Cyngor, bydd Jenni a Stephen yn ceisio adlewyrchu gwerthoedd a chredoau’r mudiad, gan osod ein dysgwyr yn gyntaf a chreu amgylchedd diogel er mwyn i ddysgwyr ddatblygu.
Trwy ddarparu arweinyddiaeth strategol gryf a herio’r tîm o staff hŷn, mae’r Cyngor yn gweithredu fel gwarcheidwad o genhadaeth y mudiad. Mae’n angenrheidiol hefyd fod llywodraethwyr yn glir am y gwahaniaeth rhwng llywodraethiant a rheoli. Mae’n bwysig iddynt gynorthwyo Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales i ddangos atebolrwydd i oll ein rhanddeiliaid, defnydd cost-effeithiol o’n hadnoddau, cydraddoldeb cyfle ac amrywiaeth ym mhobman yn ein gwaith, a defnydd cyfrifol o’n hannibyniaeth er mwyn cyrraedd anghenion addysgol.
Dymunwn yn dda i Jenni a Stephen yn ystod eu tymor yn y swydd.
Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Cymorth a Chefnogaeth