Lladron Plwm Coleg Harlech yn Parhau i Weithredu
08-Hydref-2018Ar ôl dau achos o ladrata gwaith plwm a chopr ar y gweithdy Coleg Harlech, anogwn unrhyw un sydd â gwybodaeth yn ymwneud ag unrhyw un o’r digwyddiadau hyn i gysylltu â’u Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu lleol.
Ar ôl i Goleg Harlech gau yn gynharach eleni, bu dau achos o ladrata gwaith plwm a chopr ar y gweithdy theatr a phrif adeilad y coleg, Wern Fawr. Mae rheolwr y safle, Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales, wedi galw ar y rhai sydd ag unrhyw wybodaeth yn ymwneud ag unrhyw un o’r digwyddiadau hyn i gysylltu â’r heddlu.
Dywedodd Prif Weithredwr Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales, Kathryn Robson, “Mae gweld troseddau o’r fath yn digwydd yn yr adeilad yn dorcalonnus. Byddem yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y fandaliaeth a’r lladrata i gysylltu â’r heddlu.
”Parhaodd Mrs. Robson, “Rydym ni wedi defnyddio dull rhagweithiol o ddiogelu’r adeilad a sicrhau diogelwch y staff a’r ymwelwyr. Mae hyn wedi arwain at roi nifer o fesurau diogelwch ar waith a chynnal gwaith atgyweirio.”
Bu dau achos o ladrata plwm a chopr ar do gweithdy’r theatr a’r prif goleg: un ym mis Ebrill a’r llall ychydig dros wythnos yn ôl. Arweiniodd yr achos diwethaf o ddwyn at ddifrod i’r to, a arweiniodd at ddŵr yn mynd i mewn i’r adeiladau. Cadarnhaodd yr Uwch-swyddog Iechyd, Diogelwch ac Ystadau, David Ashman, y cymerwyd cyfres o gamau: “O ganlyniad i’r difrod i’r to, mae contractwyr lleol wrthi’n trwsio’r difrod er mwyn sicrhau bod y to yn dal dŵr,” dywedodd.
Aeth Mr. Ashman ymlaen, “Rydym ni wedi gosod ffens ddiogelwch o amgylch yr adeilad ac ar y ffenestri, ac rydym ni wedi penodi contractwyr diogelwch i gynnal ymweliadau rheolaidd â’r safle. Rydym ni’n cysylltu’n aml ag aelodau’r grŵp Harlech yn Weithredol sy’n hyrwyddo monitro ac adrodd ar ddiogelwch a digwyddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol i’w haelodau, a gosodwyd system larwm ynghyd â CCTV dros flaen yr iard. Rydym ni’n cysylltu’n aml gyda’r heddlu lleol, sydd hefyd yn patrolio’r ardal yn rheolaidd.”
Anogwn unrhyw un sydd â gwybodaeth yn ymwneud ag unrhyw un o’r digwyddiadau hyn i gysylltu â’u Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu lleol.
Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Cymorth a Chefnogaeth