Coleg Harlech ar Werth
28-Tachwedd-2018
Mae cyn safle Coleg Harlech ar y farchnad yr wythnos hon, wrth i’w berchnogion Addysg Oedolion Cymru │Adult Learning Wales gymryd y penderfyniad i werthu’r eiddo yn dilyn ei gau yn gynharach eleni. Mae’r adeiladau, sydd yn cynnwys Wern Fawr, yr Awditoriwm, y cyn Campfa a’r Ganolfan Adnoddau, ar werth trwy Gynnig Ffurfiol, a dylid cyfeirio ymholiadau at Nicholas Founds neu Angela Evans (01792 479830) yn Rowland Jones Chartered Surveyors. Gwahoddir cynigion naill ai ar sail ddiamod neu amodol a dylai pob cynnig gael ei gyflwyno i Eversheds Sutherland, 1 Sgwâr Callaghan, Caerdydd, CF10 5BT erbyn y dyddiad cau o 18 Rhagfyr 2018 am 12:00 hanner dydd.
Nododd Prif Weithredwr Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales Kathryn Robson “Mae’n dorcalonnus ein bod yn gorfod cymryd y penderfyniad yma i werthu’r eiddo, ond mae enw Coleg Harlech a’r hyn oll mae’n sefyll drosodd yn parhau, gan ein bod yn darparu cyfleoedd all newid bywydau i nifer o oedolion yng Ngwynedd a miloedd mwy trwy Gymru. Parhawn gyda’r gwaith da a’r gwaddol positif ar gyfer addysg ail gyfle sydd wedi cynrychioli gwir enaid Coleg Harlech dros y 90 mlynedd a fu”.
Parhaodd Mrs. Robson, “Ein blaenoriaeth yn awr yw denu prynwyr arfaethedig sydd yn gallu cyflwyno ateb creadigol ar gyfer pobl Harlech, sydd yn cynhyrchu twf economaidd ac yn dal gafael ar bwysigrwydd hanesyddol a phensaernïol yr adeilad. Rydym yn gweithio ar y cyd gyda Chyngor Gwynedd Council, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Croeso Cymru a Cadw er mwyn sicrhau dyfodol cadarn i’r adeiladau, ac rydym yn obeithiol y gallwn lwyddo i wneud hyn”.
Cynhelir 3 diwrnod wylio ar gyfer prynwyr arfaethedig er mwyn iddynt archwilio’r eiddo ym mis Tachwedd a Rhagfyr. Mae’r dyddiadau hynny ar gael o’r gweithredwyr.
Angen unrhyw help?
Fideo CefnogiBeth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Cymorth a Chefnogaeth