Perchennog Newydd I Safle ac Adeiladau Coleg Harlech
02-Ebrill-2019Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales wedi cyhoeddi bod cyn safle Coleg Harlech wedi cael ei werthu.
Cafodd safle Coleg Harlech a gynhaliodd ddysgu oedolion o 1927 hyd 2017, ei hysbysebu i'w werthu drwy dendr ffurfiol ym mis Tachwedd 2018, ac mae'n cynnwys Wern Fawr (y prif adeilad), yr Awditoriwm, yr hen Gampfa a'r Ganolfan Amwynder.
Dywedodd Prif Weithredwr Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales, Kathryn Robson, “Gallwn gyhoeddi bod gwerthiant hen safle Coleg Harlech wedi'i wneud i'r dyn busnes lleol Leslie Banks Irvine. Rydym yn edrych ymlaen at y cyfle a'r potensial y mae'r gwerthiant yn ei gynnig i'r cymunedau lleol ac ehangach, gan nodi pennod newydd yn hanes y safle. ”
Parhaodd Mrs Robson, “Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales, y Coleg Cymunedol Cenedlaethol, yn sicrhau bod gwaith Coleg Harlech a'r cyfan y mae'n sefyll amdano yn parhau, lle rydym yn darparu cyfleoedd sy'n newid bywydau i oedolion sy'n dysgu yng Ngwynedd a ledled Cymru, gan barhau â'r gwaith da a'r etifeddiaeth gadarnhaol ar gyfer yr addysg ail-gyfle sydd wedi bod yng ngwreiddiau Coleg Harlech dros y 90 mlynedd diwethaf. ”
Ers cau llyfrgell Coleg Harlech, mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales wedi ceisio sefydlu canolfan adnoddau cenedlaethol yn enw'r cymwynaswr Tudor Bowen Jones ac i'r perwyl hwn mae gweithio mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac arbenigwyr eraill, i alluogi miloedd o ddysgwyr ledled Cymru i gael gafael ar wybodaeth ac adnoddau i'w helpu gyda'u hastudiaethau.
Mae nifer o lyfrau o lyfrgell Coleg Harlech wedi mynd i Hen Lyfrgell Harlech. Ac yn ogystal, mae'r elw o werthiant llyfrau wedi cefnogi ymdrechion codi arian Sheila Maxwell a Hen Lyfrgell Harlech i helpu i sefydlu llyfrgell gyfeirio.
“Rydym yn ddyledus i Sheila Maxwell a Hen Lyfrgell Harlech, ynghyd â llawer o wirfoddolwyr lleol am eu cymorth a'u cefnogaeth gyda threfniant y gwerthiant llyfrau diweddar,” ychwanegodd Mrs Robson. “Rydym yn cysuro rhywfaint ar y ffaith bod llawer o lyfrau wedi mynd i berchnogion newydd sy'n gwerthfawrogi eu pwysigrwydd. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddant yn derbyn gofal da.”
Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Cymorth a Chefnogaeth