Wythnos Addysg Oedolion 17-23ain Mehefin 2019 – blas o’n addysg drwy’r flwyddyn gron!
12-Mehefin-2019Daeth yr amser o’r flwyddyn eto, pan mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn dathlu Wythnos Addysg Oedolion drwy gynnal amrediad o ddigwyddiadau addysgol, cyrsiau blasu, gweithdai a hyrwyddiadau drwy Gymru ben baladr. Gwahoddir pob oedolyn i roi cynnig arni!
O ‘DIY i Ferched’ yn Llyfyrgell Pontardawe i ‘Reoli Stress’ yn Wrecsam, i ‘Atgofion Digidol’ yn y Drenewydd a gwaith coed traddodiadol yng Nghastell Nedd – a llawer mwy – mae croeso i bawb ymuno! Bydd gwybodaeth ar gael hefyd am ein cyrsiau gydol y flwyddyn, a bydd staff, partneriaid a dysgwyr ar gael i sgyrsio a rhannu gwybodaeth, gan sicrhau fod pawb mwynhau diddordebau hen a newydd!
Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn dathlu a hyrwyddo profiadau addysgol drwy gydol y flwyddyn yng Nghymru. Gallwch weld manylion eu cyrsiau yn ystod Wythnos Addysg Oedolion ar yma neu drwy ffonio 03300 580845.
Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Cymorth a Chefnogaeth