Hawl Cymreig i Ddysgu Gydol Oes

12-Medi-2019
Share

Nid yw'r dysgu'n stopio wrth giât yr ysgol. Mewn gwirionedd, i lawer, dim ond ar ôl i'r gatiau hynny gau tu ôl iddynt y mae dysgu'n dechrau. Yng Nghymru, ffurfiolwyd ymrwymiad i wella datblygiad personol neu broffesiynol trwy ddysgu gydol oes ym mis Rhagfyr 2018 yn dilyn cytundeb rhwng y Prif Weinidog a'r Gweinidog Addysg. Mae’n tynnu sylw at yr angen i ‘archwilio sut y gallwn ddarparu hawl newydd Gymreig i ddysgu gydol oes, gan fuddsoddi yn y sgiliau sydd eu hangen ar bobl trwy gydol eu hoes, er budd unigol, cymdeithasol ac economaidd’.

Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned (ACL) yn cefnogi ystod eang o ddarpariaeth dysgu ffurfiol, di-ffurfiol ac anffurfiol ac mae'n hanfodol i bawb - yn enwedig y rhai sydd anoddaf eu cyrraedd, ac sydd bellaf i ffwrdd o addysg a chyflogaeth. Mae ein gwaith ac ymchwil arall yn dangos gwerth addysg hygyrch a sut mae gwella sgiliau yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.

Mae'n hanfodol ein bod yn meithrin y sgil o ddysgu dros oes er mwyn sicrhau gweithluoedd a chymunedau gwybodus, hyblyg, deallus ac iach. Mae’r manteision economaidd, cymdeithasol a dinesig a ddaw o ddatblygu cymdeithas sydd wirioneddol yn dysgu gydol oes yng Nghymru yn ddwys, lle byddai hyn yn darparu'r arloesedd sydd ei angen i’n cymunedau fod yn wydn, i’n heconomi addasu i amgylchiadau newidiol ac i’n democratiaeth ffynnu.

Ffurfiwyd Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn dilyn yr uniad yn 2015 rhwng WEA Cymru (Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yng Nghymru) a Choleg Cymunedol YMCA Cymru. Rydym yn falch o barhau ac adeiladu ar hanes a llwyddiannau ein dau sefydliad rhagflaenol, sy'n cyfateb i dros 100 mlynedd o ddarparu addysg a sgiliau i oedolion. Ni hefyd yw’r unig Goleg Cymunedol Cenedlaethol a Mudiad Democrataidd ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned yng Nghymru. Bob blwyddyn, rydym yn gweithio gyda 13,000 o ddysgwyr sy'n oedolion er mwyn iddynt wella eu sgiliau ac ennill cymwysterau mewn dros 30,000 o weithgareddau dysgu.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda dros 200 o sefydliadau, gan gynnwys cyflogwyr o'r trydydd Sector, prifysgolion, colegau, awdurdodau lleol a TUC Cymru. Mae partneriaethau fel y rhain yn hanfodol ar gyfer cynnal ymdriniaeth gydlynol, deg ac ecwitïol, gan ganiatáu i fwy o oedolion gael eu haddysgu a'u hyfforddi yn eu cymunedau a'u gweithleoedd.

Mae'r math yma o agosrwydd gyda chymunedau yn datblygu hefyd trwy ddarparu mynediad cyfartal i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, cefnogi mentrau iechyd a lles a darparu cyfleoedd i bobl anabl a all helpu i wasanaethu fel tywysydd ar gyfer anghenion unigol a chymunedol.

Yr adeg hon y llynedd, arweiniodd gwendidau cyllidol a diffyg eglurder ynghylch strategaeth bolisi ar gyfer darpariaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned (ACL) yn y dyfodol yng Nghymru at ymgynghoriad ar ‘gyflawni a strwythur dysgu oedolion yn y gymuned yng Nghymru’. Ceisiwyd barn rhanddeiliaid i helpu i lunio polisi ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned (ACL). Rydym yn aros gyda diddordeb am y canlyniadau a'r penderfyniadau llawn sy'n deillio o'r ymgynghoriad.

Yn ein hymateb i'r ymgynghoriad, gwnaethom ddadlau y dylai unrhyw ddiwygiad arfaethedig i'r strategaeth gyfredol fod yn fodern ac yn effeithlon gan ddarparu gwerth ychwanegol. Credwn hefyd fod yn rhaid iddo fod yn gymdeithasol gyfrifol ac yn gynaliadwy. Mae dysgu oedolion a chymunedol yn rhan o wead cymdeithas Gymru a byddai ehangu Dysgu Oedolion yn y Gymuned (ACL) yn helpu i sicrhau bod gan bob dinesydd ledled Cymru’r hawl i ddysgu gydol oes. Gobeithiwn fod hyn wedi helpu i lywio agwedd Llywodraeth Cymru a sicrhau dyfodol y mudiad Dysgu Oedolion yn y Gymuned (ACL) ar gyfer pob oedolyn sy'n dysgu ledled Cymru.

 

Kathryn Robson, Prif Weithredwr
Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales

 

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Fideo Cefnogi

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Cymorth a Chefnogaeth
expand_less