Dathlu Llwyddiant yng Nghanolfan Gymunedol Llay
09-Hydref-2019Rydyn ni'n mwynhau dathlu dysgu bob amser gyda'n dysgwyr ac mewn digwyddiad diweddar yng Nghanolfan Adnoddau Llay, Wrecsam, gwnaethon ni hynny yn union!
Mynychwyd y digwyddiad gan ddysgwyr o'n cyrsiau Gwnïo / Llythrennedd Digidol, Crefft Siwgr a Chelf a chyflwynodd llawer ohonynt eu gwaith a gynhyrchwyd o ganlyniad i'r cyrsiau y maent wedi'u cwblhau gyda ni.
Ar wahân i 'ddysgu rhywbeth newydd', siaradodd y dysgwyr hefyd â'r rhai nad oeddent yn ddysgwyr am fuddion ehangach eu dysgu - taclo unigedd ac unigrwydd, a dinasyddiaeth. Amlygodd rhai o'n dysgwyr yn falch hefyd eu bod yn rhoi eu gwaith i elusennau lleol a chenedlaethol.
Mynychodd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Rob Walsh (yn y llun), hefyd a chyflwyno eu tystysgrifau cwblhau i'r dysgwyr.
Roedd yn ddigwyddiad gwych ac ymunodd y tiwtoriaid Theresa Murray (Gwnïo / Llythrennedd Digidol), Kevin McNeill (Celf) ac Alison Curtis (Crefft Siwgr) â'r dysgwyr mewn tost i'w cyflawniadau ac i lwyddiannau mwy yn y dyfodol!
Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Cymorth a Chefnogaeth