Coronafeirws - Neges gan ein Prif Weithredwr
13-Mawrth-2020"Ddoe, cyhoeddodd llywodraeth y DU y symud i gam “oedi” o’r cynllun i fynd i’r afael â coronafirws.
Diweddarwyd ein dogfen Cwestiynau Cyffredin yn unol â'r cyhoeddiad hwn.
Mae newid allweddol i dynnu eich sylw ato yn ymwneud â hunan-ynysu. Pe byddech chi'n datblygu peswch newydd, parhaus neu dymheredd uchel, fe'ch cynghorir i hunan-ynysu am saith diwrnod. Nid yw'n ofynnol bellach i bobl â symptomau ffonio GIG 111, gan fod y system dan straen, ond yn hytrach fe'u hanogir i chwilio am wybodaeth ar wefan y GIG a 111 ar-lein.
Mae cyngor y Prif Swyddogion Meddygol yn glir; na ddylid cau ysgolion, colegau a lleoliadau gofal plant ar hyn o bryd. Mae'r penderfyniadau hyn yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf. Oherwydd hyn, byddwn yn parhau i weithredu fel arfer ar yr adeg yma, gan gadw'r sefyllfa dan adolygiad parhaus. Mae Tîm Rheoli'r Coleg yn blaenoriaethu gweithgaredd cynllunio wrth gefn, ac yn cyfarfod yn aml i adolygu'r sefyllfa bresennol a nodi materion.
Byddwch yn ymwybodol ni fydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) AOC I ALW ar 26ain Mawrth yn mynd ymlaen yn ei ffurf arferol. Ar hyn o bryd rydym yn archwilio’r potensial i hwyluso “CCB digidol” gan ddefnyddio’r dechnoleg sydd ar gael.
Fy nymuniadau gorau i chi a'ch teuluoedd."
Kathryn Robson, Prif Weithredwr
Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Cymorth a Chefnogaeth