Mae Cryfhau Amrywiaeth yn Allweddol
15-Mehefin-2020Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales wedi datblygu ar sail ei egwyddorion gwreiddiol sydd wedi para ymhell dros ganrif. Un o gonglfeini ein cyfansoddiad yw ymrwymiad diamod i sicrhau ‘dysgu i bawb’ er mwyn gwella ein holl ddinasyddion, ein cymunedau a’r gymdeithas gyfan.
Rydym ni’n gwybod fod gan addysg y grym i gryfhau cymunedau a chyfoethogi a gweddnewid bywydau. Mae’n amlwg iawn yn sgil digwyddiadau byd-eang diweddar fod cryfhau ein cymunedau amrywiol a sicrhau cydraddoldeb ar bob lefel yn ei gwaith yn parhau i fod yn rhywbeth hanfodol. Rydym ni’n cydweithio â’n dysgwyr, ein haelodau, ein staff a’n partneriaid – a byddwn ni’n parhau i wneud hynny - i gynllunio beth allwn ni ei wneud i addysgu ein hunain a’r cymunedau rydym ni’n eu gwasanaethu, er mwyn gallu sicrhau cyfuniad o eiriau cefnogol a gweithredu ystyrlon.
Rydym ni wedi’n hymrwymo i wella amrywiaeth yn ein sefydliad, a dan arweiniad ein Grŵp Diogelu Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, rydym ni wedi newid pwyslais ein gwaith cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ystod blynyddoedd diweddar. Mae polisïau a gweithdrefnau ein sefydliad yn parhau i gael eu hadolygu, ble’r ydym ni’n ceisio sefydlu cynllun gweithredu eglur i sicrhau fod ein gweithlu yn adlewyrchu ein cymunedau yng Nghymru yn well.
Mae mynd i’r afael ag anghyfiawnder hiliol yn broses barhaus, ac rydym ni wedi’n hymrwymo i gefnogi’r broses honno yn y tymor hir. Rydym ni’n croesawu adborth rheolaidd gan ddysgwyr, aelodau, staff a phartneriaid i’n hysbysu ni ynghylch beth arall allwn ni ei wneud i gynorthwyo i sicrhau newid ystyrlon, go iawn. Mae angen i ni barhau i gynnal y drafodaeth nes y gwireddir newid yn y gymdeithas.
Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Cymorth a Chefnogaeth