Dysgwch Ar-lein Gyda Ni!
07-Awst-2020Yn ystod cyfnod Covid-19, mae ein darpariaeth cyrsiau ar-lein wedi ehangu’n sylweddol.
Mae ein Rheolwr Datblygu Digidol, Rhydian Williams, yn egluro beth rydym ni wedi bod yn ei wneud i sicrhau fod dysgu wedi parhau trwy gydol y cyfnod o gyfyngiadau symud a beth allwn ni ei ddisgwyl yn ystod y tymor newydd.
Felly Rhydian, mae’n wych cael cwrdd â chi, dywedwch bopeth!
Helo! Rydym ni’n edrych ymlaen yn arw at ein tymor newydd. Mae dysgu ychydig yn wahanol ar hyn o bryd, ond rydym ni’n awyddus i gychwyn arni! Pan gafodd ein cyrsiau wyneb yn wyneb traddodiadol eu hatal dros dro oherwydd coronafeirws, ble’r oedd hynny’n bosibl, fe wnaethom ni symud y cyrsiau wyneb yn wyneb i ddarpariaeth ar-lein, ym mhob maes - cam mawr ond un sydd wedi bod yn werth chweil. Bellach, mae cynlluniau yn mynd rhagddynt i sicrhau fod rhagor o’n darpariaeth yn cael ei gynnal gan gyfryngau digidol.
Mae nifer y cyrsiau ar-lein wedi cynyddu’n sylweddol; beth yw’r adborth hyd yn hyn?
Diolch i ymroddiad ein timau o diwtoriaid sydd wedi croesawu’r model addysgu a dysgu newydd hwn, mae’r adborth wedi bod yn hynod o galonogol. Rydym ni oll yn gwybod y gall defnyddio technoleg fod yn heriol ar brydiau, ond yn sgil ein cymorth, mae symud i ddysgu ar-lein a’r buddion a ddaw yn sgil hynny wedi bod yn hynod o fuddiol. Felly ‘Da Iawn Chi’ i’n holl ddysgwyr a thiwtoriaid!
Felly beth all ein dysgwyr ei ddisgwyl?
I lawer, mae cychwyn dysgu’n rhithwir yn golygu camu oddi allan i’w cylch cysur. Ond diolch i’n timau o diwtoriaid parod eu cymorth, bydd y newid yn aml yn un didrafferth, ac fel arfer, yn well na fydd dysgwyr yn ei ddisgwyl! Mae cael cyfle i barhau i ddysgu a rhyngweithio â chyd-ddysgwyr ar-lein wedi cynnig achubiaeth i lawer, yn enwedig y rhai sydd wedi teimlo’n ynysig yn ystod y cyfnod hwn.
Wnaethoch chi grybwyll Moodle?!!
Do! Rydym ni’n defnyddio Moodle at ddibenion dysgu ar-lein – ar gyfer ein cyrsiau achrededig yn bennaf. Gan ddefnyddio’r rhyngrwyd, dyna ble gall dysgwyr gael gafael ar ddeunyddiau eu cyrsiau a’u tasgau asesu. Caiff gwaith cwrs ei uwchlwytho i Moodle; bydd y tiwtor yn marcio’r gwaith ac yn rhoi adborth i’r dysgwr – y cyfan mewn un lle! Pan gaiff cyrsiau eu cynnal ar Moodle, bydd manylion mynediad a chanllawiau ynghylch sut i’w ddefnyddio yn cael eu he-bostio at ddysgwyr.
Pa wasanaethau ar-lein eraill rydym ni’ n eu cynnig?
Rwy’n falch eich bod chi wedi holi! Yn ogystal â gallu cofrestru ar-lein, rydym ni’n defnyddio cyfleusterau galwadau fideo Microsoft Teams a Vscene ar gyfer ein sesiynau dysgu byw ar-lein. Dyma’r ddau blatfform sy’n cael eu defnyddio’n bennaf gan ein tiwtoriaid gyda dysgwyr. Bydd ein tiwtoriaid yn rhoi mynediad i’r platfformau hyn i ddysgwyr trwy e-bostio gwahoddiadau atynt.
Mae hyn yn swnio’n gymhleth – a oes angen i mi osod meddalwedd ar fy nghyfrifiadur?
Nac oes. Nid oes angen unrhyw feddalwedd. Mae Teams a Vscene yn gweithio mewn porwr gwe – er enghraifft, Google Chrome neu Internet Explorer. A gall ein holl ddysgwyr ddefnyddio Microsoft Teams am ddim!
Mae’n swnio’n wych. Ond beth os wyf i’n dal yn teimlo braidd yn ansicr?
Mae ein cymorth ar gael i ddysgwyr yn ystod pob cam o’r daith. Yn ogystal â’r cymorth uniongyrchol y bydd dysgwyr yn ei gael gan eu tiwtor a staff ein swyddfeydd rhanbarthol, mae gennym ni dîm cymorth penodedig hefyd i sicrhau fod holl agweddau dysgu ar-lein gyda ni yn cael sylw, gan sicrhau fod dysgwyr yn gallu teimlo’n hyderus ac yn gartrefol wrth ddysgu ar-lein.
Diolch Rhydian ac i bob aelod o’n tîm (fe wyddoch chi pwy ydych chi!).
Darllenwch fanylion ein dewis cynyddol o gyrsiau ar-lein a dysgwch ar-lein gyda ni heddiw!
Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Cymorth a Chefnogaeth