Masgiau Wyneb mewn Mannau Cyhoeddus Dan Do: Ein Canllawiau i'n Tiwtoriaid a'n Dysgwyr
11-Medi-2020Mae Prif Weinidog Cymru, wedi cyhoeddi y bydd masgiau wyneb / gorchuddion yn cael eu gwisgo mewn mannau cyhoeddus dan do yng Nghymru o ddydd Llun,14 o Fedi.
Mae mwyafrif ein dosbarthiadau yn cael eu cynnal mewn lleoliadau cymunedol, ac er mwyn darparu arweiniad cadarnhaol ar hyn o'r cyfle cynharaf, byddem yn cynghori bod pob tiwtoriaid a dysgwyr Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales wisgo masgiau / gorchuddion wyneb bob amser yn ystod ein dosbarthiadau wyneb yn wyneb.
Anogir dysgwyr i ddod â'u mwgwd y gellir ei ail-ddefnyddio eu hunain i'r dosbarth, fodd bynnag, bydd masgiau tafladwy ar gael i'r rhai sydd eu hangen.
Bydd gorchuddion wyneb / fisorau yn cael eu darparu ar gyfer tiwtoriaid yn ôl yr angen, cyn i'r dysgu wyneb-yn-wyneb gael ei ddechrau.
Ac eithrio dysgwyr a thiwtoriaid sydd wedi'u heithrio rhag gwisgo masgiau wyneb oherwydd rhesymau meddygol, mae gwisgo masgiau / gorchuddion wyneb bellach yn ofyniad gorfodol; gofynnir i unrhyw un sy'n gwrthod cydymffurfio â'r gofyniad hwn adael y dosbarth.
Rydym yn aros am ganllawiau wedi'u diweddaru gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru a darperir gwybodaeth bellach ar ein gwefan wrth iddi ddod ar gael inni.
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Cymorth a Chefnogaeth