Addysg Ddemocrataidd yn y Cyd-destun Ehangach

15-Medi-2020
Share

Un o egwyddorion sylfaenol ein sefydliad yw dysgu democrataidd i bawb. Heddiw, yn union fel yn ystod hanes y mudiad dros gan mlynedd a rhagor, rydym ni wedi’n hymrwymo i gynnig cyfleoedd cyfartal a hawliau cyfartal er budd yr unigolyn a’r gymdeithas gyfan.

Flwyddyn yn ôl, fe wnaeth aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig gytuno i fabwysiadu Agenda Datblygu Cymdeithasol 2030. Nod yr agenda yw sicrhau mwy o degwch a chyfleoedd cyfartal i bobl ledled y byd. Mae un o’r 17 Nod Datblygu Cynaliadwy yn canolbwyntio ar ddemocratiaeth ac mae’n ceisio hyrwyddo cymdeithasau heddychlon a chynhwysol.

Eleni (yn 2020), cynhelir Diwrnod Rhyngwladol Democratiaeth y Cenhedloedd Unedig ar 15 Medi 2020. Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn cael ei gynnal ers deng mlynedd, a’i nod yw adolygu cyflwr democratiaeth yn y byd a chynnal a hyrwyddo democratiaeth a’i hegwyddorion.

Mae digwyddiadau byd-eang diweddar wedi dangos yn glir ei bod hi’n bwysicach nag erioed i ni gydnabod pwysigrwydd gwerthoedd democrataidd a gweithredu mewn ymateb i’r gwerthoedd hynny i wella llywodraethu teg a grymuso cymdeithasau. Yn ystod misoedd diweddar, cafwyd cynnydd sylweddol yn y gefnogaeth i ymgyrchoedd megis “Mae Bywydau Du o Bwys”, sy’n dwyn sylw at bwysigrwydd democratiaeth a rhyddid barn er mwyn mynegi materion pellgyrhaeddol a dylanwadol ledled ein holl wledydd.

Yn ychwanegol, mae argyfwng digynsail Covid-19 wedi dwyn sylw at heriau cymdeithasol, gwleidyddol a chyfreithiol sylweddol iawn yn fyd-eang, ac maer Cenhedloedd Unedig wedi galw am weithredu i fynd i’r afael â nifer o faterion sydd wedi codi trwy gyfrwng argyfwng Covid-19 a allai niweidio democratiaeth, a gwrthweithio’r materion hynny. Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae nifer o sefydliadau’r gymdeithas ddinesig wedi ymrwymo i ddatblygu llythrennedd cyfryngau a diogelwch digidol; herio gwybodaeth gamarweiniol a safbwyntiau sy’n annog casineb at eraill; cynorthwyo i gynnal hyfforddiant i ddatblygu newyddiaduraeth sy’n ffeithiol gywir; grymuso menywod i herio trais ar sail rhywedd; ac amlygu heriau anghyfartaledd.

Mae llawer o’r materion a amlygir uchod wedi bod yn destun trafod a chodi ymwybyddiaeth yn ein cwricwlwm drwyddo draw, ac mae’r gwerthoedd hyn yn parhau i fod wedi’u hymgorffori yn ein gwaith ni heddiw, ac maent yn sail i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru. Gall Cymru gyfrannu’n sylweddol at gynorthwyo i gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Er ein bod ni’n wlad fechan, mae gennym ni galon fawr a’r brwdfrydedd sy’n ofynnol i wneud gwahaniaeth go iawn.

Dan ddylanwad gwerthoedd ac egwyddorion ein sylfaenwyr – yn cynnwys WEA Cymru – a dros 100 o brofiad ym maes addysg ddemocrataidd, mae Addysg Oedolion Cymru ׀ Adult Learning Wales mewn sefyllfa dda i barhau â’n cenhadaeth ddinesig i rymuso pobl trwy gyfrwng dysgu a hyrwyddo democratiaeth weithredol. Gan gydweithio â chymunedau a phartneriaid, mae gennym ni gynllun eglur at y dyfodol i ddiwallu anghenion dysgu cymunedau, ac mae democratiaeth yn parhau i fod yn edau euraidd sy’n uno pawb ohonom ni.

Rydym ni’n benderfynol o ddarparu cyfleoedd dysgu hygyrch ar gyfer oedolion ym mhob cwr o Gymru. Mae ein nod o sicrhau bod ein dysgwyr yn uchelgeisiol ac yn wybodus, yn barod i ddysgu trwy gydol eu hoes, yn nod cadarn – ble’r ydym yn creu amgylchedd democrataidd sy’n annog ac yn galluogi pob un o’n dinasyddion i wneud cyfraniad llawn at fywyd a gwaith yng Nghymru a’r byd ehangach.

Mae Diwrnod Cenedlaethol Democratiaeth yn gyfle i ddathlu ein llwyddiannau a dwyn sylw at ein gwaith yn cynorthwyo i gynnal gwerth dinasyddiaeth weithredol ble mae hyn hefyd yn caniatáu i bobl fynegi eu lleisiau yn well i sicrhau dyfodol gwell i bawb.

 


Kathryn Robson, Prif Weithredwr
Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales

 

 

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Fideo Cefnogi

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Cymorth a Chefnogaeth
expand_less