Sut rydym yn helpu dysgwyr i oresgyn rhwystrau digidol
12-Ebrill-2021Yn ystod y cyfnod clo mae Gwyn Roberts, sy'n diwtor yng Nghaerdydd, wedi parhau i ddysgu ystod o gyrsiau Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill (ESOL) – rhai sydd heb a rhai sydd wedi'u hasesu - drwy Dimau V-scene a Microsoft. Yma mae'n rhannu ei brofiadau gyda ni, gan dynnu sylw at yr angen parhaol i ddarparu dyfeisiau i gysylltu gyda'r rhyngrwyd er mwyn galluogi i ddysgwyr barhau â'u dysgu ar-lein.
Mae dysgu ar-lein wedi bod yn ‘alluogwr’ gwych i lawer - gan sicrhau bod dysgu wedi parhau yn ystod cyfnod lle nad yw dosbarthiadau wyneb yn wyneb yn cymryd lle. Fodd bynnag, nid yw mynd ar-lein yn gam syml, yn enwedig pan fydd pawb mewn cartref yn rhannu un ddyfais, fel y dywed ein tiwtor Gwyn Roberts wrthym:
“Yn aml iawn nid yw dysgwyr wedi medru ymuno gyda chwrs oherwydd bod aelodau eraill o’u teulu wedi bod angen y ddyfais i weithio neu dderbyn eu haddysg. Roedd angen gliniaduron neu iPads ar lawer o ddysgwyr ac felly rhan o'r ymateb gennym oedd edrych ar y ffordd orau i gefnogi hyn.”
Ychwanegodd Gwyn,
“Cydnabyddodd Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yr angen yn gynnar iawn ac mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn ar gyfer cefnogi dysgwyr i barhau â'u dysgu ar-lein o ran rhannu dyfeisiau a chefnogaeth ddilynol.”
Ar adegau, mae addasu i ddysgu digidol wedi bod yn heriol i'w ddysgwyr.
Dywed Gwyn,
“Yn ystod y tymor cyntaf, rhoddwyd cyfeiriad e-bost sefydliadol i’r dysgwyr er mwyn iddynt fedru gosod cyfrifon Office a Thimau Microsoft i fyny [mae angen y rhain i gefnogi ein dysgu ar-lein]. Cafodd un dysgwr oedd yn ddechreuwr llwyr gryn drafferth i gwblhau'r broses gan nad oedd ei chyfrif e-bost wedi'i chydamseru i'w ffôn symudol. Ar ôl rhoi cynnig ar amrywiol o atebion posibl, rhoddais nodyn iddi fynd at ei darparwr ffôn. Yn dilyn hynny, yn y sesiwn nesaf, cefais fy modlonni fod popeth wedi ei ddatrys; ers hynny, mae hi wedi gallu mynychu'r cwrs yn rheolaidd ac mae safon ei Saesneg wedi gwella’n sylweddol tra ei bod wedi ymgysylltu’n gymdeithasol gyda mi a dysgwyr eraill yn ystod y cyfnod clo.”
Mae Gwyn wedi parhau i helpu'r dysgwyr hynny sydd â rhwystrau digidol er mwyn eu galluogi i gymryd rhan yn ei wersi a gwella eu sgiliau iaith Saesneg. Mae'n cydnabod bod hyn wedi bod yn heriol ar brydiau, ond yn werth chweil o wybod bod ei ddysgwyr nid yn unig wedi parhau â'u dysgu ond hefyd wedi cyflawni eu nodau.
Er gwaethaf cyfyngiadau cyfnewidiol y cyfnod clo, mae Gwyn yn edrych ymlaen at barhau i ddysgu ym mha bynnag fodd; fel llawer o rai eraill, mae hefyd yn edrych ymlaen at amseroedd mwy arferol lle gall gwrdd â’i deulu estynedig a ffrindiau a ‘phicio allan i’r dafarn’!
Dymunwn lwyddiant parhaus i Gwyn a'i ddysgwyr Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill (ESOL) ar eu teithiau dysgu. Da iawn Gwyn!
I ddarganfod mwy am ein cyrsiau Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill (ESOL), fel rhai Gwyn, cliciwch yma.
Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Cymorth a Chefnogaeth