Dysgwr gydol oes sy'n helpu eraill

14-Ebrill-2021
Share

Mae Colin Ridgway yn ddysgwr gweithgar a benderfynodd dychwelyd i ddysgu ar ôl sawl blwyddyn er mwyn hyrwyddo ei ragolygon cyflogadwyedd. Er gwaethaf ei amheuon ar y cychwyn, dilynodd Colin ei ddiddordeb a thawelodd ei diwtor ei ofnau wrth iddo ailgydio yn ei ddysgu. Roedd Colin yn bryderus am yr her y gallai ei wynebu oherwydd ei ddyslecsia.

Dywedodd Colin wrthym, “Roeddwn yn betrusgar ar y dechrau pan newidiodd y cwrs i ddarpariaeth ar-lein oherwydd Covid-19, ond gyda chefnogaeth ac anogaeth, teimlais yn fwy cyffyrddus wrth ddilyn y cam nesaf. Cefais diwtor gwych. Fe wnaeth y cymorth parod fy helpu i ddelio ag anghenion a ddaeth yn sgil fy nyslecsia yn ogystal ag agweddau ar y cwrs”.

“Mae fy nyslecsia yn amlwg iawn ac rwy'n ei chael hi'n anodd ysgrifennu traethodau. Hyd nes i mi gyrraedd y brifysgol yn fy ugeiniau hwyr, doeddwn i erioed wedi cael fy nysgu sut i ysgrifennu traethawd. Pan oedd yn ofynnol i mi ysgrifennu ar lefel academaidd uwch, gan ddychwelyd i addysg ar ôl seibiant o dros ugain mlynedd, roedd yn frwydr i mi ysgrifennu yn y person cyntaf ar gyfer y cwrs lefel 3”.

Mae Colin wedi datblygu ei sgiliau digidol ac wedi gallu cefnogi eraill gyda'r sgiliau newydd hyn. Trwy gydol y cyfnod clo, mae Colin wedi gweld y buddion y mae ei ddysgu wedi'u cael nid yn unig ar ei addysgu a'i ymarfer digidol, ond ar ei les hefyd.

Dywed Colin, “Fe wnaeth y dysgu a’r sgiliau a ddatblygais fy annog i ddod yn ymddiriedolwr gyda sefydliad partneriaeth leol sydd yn darparu, ymysg gwasanaethau eraill ,addysg gymunedol. Rwyf yn ymwneud â datblygu darpariaeth gwasanaeth addysgol yn y gymuned. Mae fy lles, fy hyder ac iechyd meddwl i gyd wedi gwella. Roedd gallu dysgu yn ystod y cyfnod cloi yn sicr yn offeryn pwerus iawn i helpu fy iechyd meddwl gan ei fod yn darparu rhywbeth pwysig i mi ganolbwyntio arno. ”

Mae’n ychwanegu, “Cefais yr offer i ddysgu mwy am Addysg a Hyfforddiant ac rwy’n angerddol am rannu hyn ag eraill, eu cefnogi a’u helpu ar eu teithiau. Nid wyf wedi penderfynu os wyf am ddilyn gwaith cyflogedig yn y sector hyfforddi o fewn diwydiant neu mewn addysg gymunedol, ond ni fyddwn yn cael yr opsiynau hyn heb y cwrs gwych a gynigir gan Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales”.

[Enwebydd yn adlewyrchu,] “Mae Colin yn ddysgwr gydol oes ysbrydoledig sydd wedi gweithio’n galed i ddatblygu ei sgiliau a helpu eraill. Dysgwr haeddiannol ac rwyf yn falch o’i enwebu.”

Da iawn Colin, a dymuniadau gorau gan bawb yn Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales.

I ddarganfod mwy am gyrsiau Gwobr mewn Addysg a Hyfforddiant (AET), cliciwch yma.

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Fideo Cefnogi

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Cymorth a Chefnogaeth
expand_less