Aros yn Gysylltiedig
21-Ebrill-2021Dechreuodd Pearl ai merch ddysgu mewn dosbarth oedd yn cael ei gynnal yn ysgol iau ei hwyrion. Roedd y cyrsiau byr a ddarparwyd yn gyfle iddi ddatblygu sgiliau newydd a chodi ymwybyddiaeth o ffyrdd i'w helpu i gyfathrebu a rhyngweithio'n fwy effeithiol gyda'i hwyrion. Nid oedd Pearl na'i merch wedi astudio o'r blaen ac roeddent yn bryderus am roi cynnig ar rywbeth newydd.
Dywedodd Pearl, “O ganlyniad i ddysgu ar-lein, mae fy nefnydd o fy ffôn a chyfrifiadur wedi gwella. Mae gweld fy ngrŵp ar y sgrin wedi bod yn wych! Mae ychydig o amser i ni ei neilltuo ar gyfer ein gweithgareddau wedi bod mor bwysig. Gallaf nawr weld golau ar ddiwedd y twnnel gyda brechiadau, sy'n gwneud i mi deimlo'n well. Rwy'n mwynhau fy nysgu ar-lein, er nad yw'r agwedd gymdeithasol yn hollol yr un peth. Rwy’n hapus i barhau fel hyn: i fod yn ddiogel a byddaf yn parhau i ddysgu ar-lein nes y gallwn ddychwelyd i’r dosbarth yn yr ysgol.”
[Enwebydd yn adlewyrchu,] “Mae Pearl wedi camu ymlaen o ddechrau ei gwers gyntaf un heb unrhyw brofiad dysgu blaenorol i gwblhau sawl cwrs. Mae hi wedi ffynnu gan fwynhau ei dysgu ac mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar eraill o'i chwmpas. Mae'n parhau i osod esiampl wych i aelodau ei theulu trwy gofleidio dysgu a pharhau gyda'i hastudiaethau. Mae wedi bod yn wirioneddol galonogol gweld y buddion y mae dysgu Pearl wedi’u cael sydd yn gymorth iddi ymgysylltu â’i theulu.”
Gan fod gan ei hwyrion anghenion dysgu lluosog, mae gan Pearl ddiddordeb mewn datblygu ei gwybodaeth a'i sgiliau; mae hi wedi dweud fod holl aelodau ei theulu wedi elwa o'i sgiliau dysgu a'i gwybodaeth ar y cyrsiau hyn. Mae Pearl bellach yn ddelfryd ymddwyn cadarnhaol i'w theulu ac mae'n eiriolwr dros roi cynnig ar bethau newydd a dysgu lle bynnag y bo modd.
Gwaith gwych Pearl, a phob lwc gyda'ch enwebiad Ysbrydoli gan bawb yn Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales.
I gael mwy o wybodaeth am ein cyrsiau, cliciwch yma.
Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Cymorth a Chefnogaeth