Ymweliad dysgwyr ein 'Hysgol Haf ESOL' ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
24-Awst-2021
Cafodd dysgwyr ein Hysgol Haf Rhanbarthau De Cymru a Chanolbarth Cymru amser gwych yn ystod eu gwibdaith i Amgueddfa’r Glannau yn Abertawe ym mis Awst. Cafodd dysgwyr a’u teuluoedd weithgaredd ‘trywydd teuluoedd’ i’w gwblhau; y nod oedd canfod yr holl wylanod cudd o amgylch yr amgueddfa. Fe wnaeth y dysgwyr hefyd fynychu digwyddiad ailgylchu, ac yno, fe wnaethant ail-ddylunio hen ddarnau o ddillad gan ddefnyddio paent, secwinau a ffabrigau wedi’u hailgylchu. Cawsant hyd yn oed gyfle i ddylunio eu bagiau siopa eu hunain i gludo eu creadigaethau creadigol ynddynt ac ailddefnyddio’r bagiau ar gyfer teithiau siopa yn y dyfodol!
Roedd dysgwyr sy’n geiswyr lloches ac yn ffoaduriaid yn credu fod y digwyddiad yn ffordd wych i ddysgu am uwchgylchu, ac fe wnaethant ychwanegu eu creadigrwydd at ffabrigau, a chymryd rhywbeth hen a dysgu sut i drwsio ac ail-greu rhywbeth newydd.
Tra bod yr amgueddfa yn dwyn sylw am ddatblygiadau modern y mae’r byd wedi’u profi, cynigodd y ‘trywydd teuluoedd’ gyffro i’r plant, a chwiliodd am y gwylanod oedd wedi’u cuddio ymhlith yr arddangosfeydd. Fe wnaeth yr amgueddfa gynnig diwrnod cynhwysol iawn o ddysgu, â rhywbeth i’r teulu cyfan!
Dywedodd ein tiwtor, Jessica Maloney, “Roedd y gwibdeithiau yn gyfle gwych i ddysgwyr ddysgu am gysyniadau uwchgylchu. Cafodd myfyrwyr eu hysbrydoli gan yr arddangosfeydd o’u hamgylch a datblygu eu hymadroddion sgwrsio trwy ddefnyddio Saesneg mewn amgylchedd naturiol.”
Rydym ni mor falch fod ein dysgwyr wedi mwynhau amser gwych ac wedi gallu cyfranogi yn nigwyddiad ein hysgol haf!
I ddysgu rhagor am ein Hysgolion Haf ESOL eraill, cyfleoedd ESOL a chyrsiau ESOL eraill, cliciwch yma.
Angen unrhyw help?
Fideo CefnogiBeth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Cymorth a Chefnogaeth