WEA Cymru a YMCA Cymru yn cynnal trafodaethau
31-Hydref-2014Fel rhan o agenda Trawsnewid Llywodraeth Cymru i gwtogi'r nifer o golegau a sefydliadau addysgiadol drwy uniadau a chydweithio, mae Coleg Cymunedol YMCA Cymru a WEA Cymru yn cynnal trafodaethau gyda'r bwriad o greu corff newydd, cryfach yn gwasanaethu Cymru gyfan.
Byddai'r sefydliad newydd mewn gwell sefyllfa i ymateb i anghenion dysgu lleol a rhanbarthol tra'n cydymffurfio gyda pholisi cenedlaethol i hyrwyddo dyheuadau personol, dinasyddiaeth weithredol a datblygiad y gweithlu.
Byddai amcanion y corff newydd Cymru gyfan yn cynnwys:
• Darparu gwasanaethau ychwanegol i ddysgwyr drwy Gymru a gwella ac ehangu cyfleon dysgu;
• Sicrhau fod yr arlwy gwricwlaidd drwy Gymru yn cael ei chynnal, ei datblygu ymhellach a'i chydlynu;
• Cynnal hunaniaeth genedlaethol bwysig y ddau sefydliad gydag atebolrwydd Ileol a rhanbarthol;
• Cynnal a datblygu'r amrediad o ddarpariaeth ddwyieithog led-led Cymru;
• Sicrhau strwythur staffio a rheoli addas a fforddiadwy drwy'r sefydliad, gyda staff yn cael eu trin yn gyfartal;
• Datblygu isadeiledd y ddarpariaeth;
• Datblygu rhagor o ymwneud gyda phartner-sefydliadau arbenigol fel y Sefydliad Adfer Cymuned newydd, Chwarae Cymru, Datblygiad Cymunedol Cymru, CWVYS, Cymdeithasau Tai, Cymdeithasau Chwaraeon a Chelfyddydol, Job Centre Plus a WVCA;
• Ymateb i ddatblygiadau cenedlaethol, rhanbarthol ac is-ranbarthol;
• Sicrhau hyfywedd hir-dymor i'r endid newydd.
2. Y PROSIECT
Mae Coleg Cymunedol YMCA Cymru a WEA Cymru wedi rhoi cais i Adran Addysg a Sgiliau (AAAS) Llywodraeth Cymru am gyllid i ddatblygu uniad potensial erbyn Gorffennaf 2015.
Byddai'r cyllid yn cefnogi tri cham y prosiect:
a) datblygu Achos Busnes dros yr opsiynnau strategol allai fod ar gael i Goleg Cymunedol YMCA Cymru a WEA Cymru wrth iddynt ystyried adeiladu cysylltiadau agosach i greu corff newydd allai arwain at uno sefydliadol;
b) gweithredu diwydrwydd dyladwy ar y ddau barti;
c) datblygu'r opsiwn dewisiedig sy'n deillio o'r Achos Busnes a cheisio sêl bendith AAAS a'r Gweinidog i'r opsiwn terfynol.
Mae Gnivp Llywio Partneriaethol wedi ei sefydlu i ddatblygu'r prosiect, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o gyrff Ilywodraethol y ddau sefydliad, y ddau brif weithredwr, ac aelod ymgynghorol o'r AAAS. Penodwyd cadeirydd annibynnol, sef John Graystone, cyn¬brif weithredwr Colegau Cymru / Colleges Wales.
Mae Astudiaeth Dichonolrwydd ac Achos Busnes i'w gwblhau cyn bo hir er mwyn galluogi datblygiad model newydd o gydweithio neu uniad erbyn Gorffennaf 2015. Mae Capita wedi ei penodi i ymgymeryd a'r gwaith hwn. Apwyntiwyd Capital Law i fod yn gyfrifol am faterion diwydrwydd dyladwy cyfreithiol ac i roi cyngor ar drefniadau Ilywodraethol i'r dyfodol pe bai corff newydd yn cael ei sefydlu.
Mae trafodaethau cyson yn cael eu cynnal rhwng uwch-dimau'r ddau sefydliad, a chychwynwyd y cydweithio.
Maggi Dawson, Prif Weithredwr WEA Cymru
Mark Isherwood, Pennaeth Coleg, Coleg Cymunedol YMCA Cymru.
Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Cymorth a Chefnogaeth