Uno Arfaethedig Rhwng WEA Cymru a Choleg Cymunedol YMCA Cymru

28-Mai-2015
Share

Mae paratoadau ar gyfer uno rhwng WEA Cymru a Choleg Cymunedol YMCA Cymru wedi symud ymlaen yn sylweddol. Mae grwpiau gweithio ar y cyd ymhlith y staff wedi cwrdd droeon er mwyn creu cynlluniau gweithredol amrywiol i baratoi amdano. Byddant yn parhau i wneud hynny hyd at ddiwrnod yr uno a thu hwnt. Ym mis Ebrill, cytunodd fwrdd Coleg Cymunedol YMCA Cymru a Chyfarfod Blynyddol WEA Cymru i gefnogi’r cynnig i uno, a’r diwrnod arfaethedig amdano yw 31 Gorffennaf 2015.

Mae angen fwy o waith i sefydlu enw’r mudiad newydd. Bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i hyn ochr yn ochr gydag adolygiad o lywodraethiant, yn cychwyn yn syth gyda’r amcan o gyflwyno cynnig i Gyfarfod Blynyddol yn ystod Gwanwyn 2016, gyda’r cwbl i’w weithredu erbyn Awst 2016. Yn y cyfamser, defnyddir yr enw dros dro o WEA Coleg Cymunedol YMCA Cymru.

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Fideo Cefnogi

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Cymorth a Chefnogaeth
expand_less