Rhoddion
 

Ein potensial

Fel darparwr Addysg Oedolion ledled Cymru a gydnabyddir gan Estyn am ei safonau uchel, gall Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales arwain dull cydgysylltiedig a hwyluso integreiddio dysgu ar draws gwahanol bortffolios polisi. 

 

Mae gennym hanes hir o ddatblygu partneriaethau lleol a rhanbarthol, gan gydweithio ag eraill gan gynnwys Awdurdodau Addysg Leol, Colegau Addysg Bellach a Phrifysgolion. Ar lefel genedlaethol rydym yn cydweithio â TUC Cymru, Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru, Cwmni Adferiad Cymunedol Cymru a’r Gwasanaethau Ieuenctid ar draws y genedl.

 

Rydym yn darparu:

  • Rhaglenni Addysg Oedolion sy’n galluogi oedolion i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, yn cynyddu cyflogadwyedd a rhagolygon gyrfaol, ac yn cyfrannu tuag at ddatblygiad economaidd
  • Darpariaeth Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) i alluogi oedolion gyfrannu i’w cymunedau, hyrwyddo cytgord cymunedol a gwella mynediad i’r farchnad lafur drwy wella sgiliau iaith
  • Addysg Oedolion cyfrwng Cymraeg gan gynnwys ‘gofal cwsmeriaid dwyieithog’ ac ‘ymwybyddiaeth ieithyddol a diwylliannol’
  • Cyfleoedd sy’n rhoi ail gyfle i rieni ddysgu – gan ddatblygu modelau ymddwyn i’w plant, cynorthwyo i godi safonau addysg a mynd i’r afael â than gyrhaeddiad, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig
  • Cefnogi oedolion i fynd ymlaen i Addysg Bellach ac Uwch – gan ehangu cyfranogiad yn ein prifysgolion a hybu datblygiad sgiliau o lefel uwch ar gyfer adfywio economaidd.

Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin

Siaradwch â ni

 

Rhoddion

Cyfranwch i Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales i gefnogi ein gweledigaeth ar gyfer dysgu oedolion yng Nghymru!

Bob blwyddyn mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn derbyn nifer o roddion unigol gan aelodau a chefnogwyr, ac mae’n gwerthfawrogi’r rhain yn fawr. Mae hyn yn cynorthwyo ein gwaith ac yn helpu i ymestyn ein cyrhaeddiad i bob oedolyn ar draws Cymru.

 

Helpu i Gynyddu Eich Cefnogaeth

Os ydych yn talu unrhyw dreth incwm a/neu dreth ar enillion cyfalaf sydd o leiaf yn gyfartal â’r dreth mae’r elusen yn ei hawlio’n ôl ar eich rhoddion yn y flwyddyn dreth (sef 28c ar hyn o bryd am bob £1 a rowch chi, h.y. cyfradd dreth o 22%) gallwch helpu i gynyddu eich cefnogaeth. Os oes gennych ddiddordeb, bydd angen i chi lenwi adran [B] isod – Datganiad o Gymorth Rhodd. Adolygwyd y cynllun yma ac mae Cymorth Rhodd yn bosibl ar unrhyw nifer o roddion a thaliadau unwaith yn unig.

Nodiadau

  • Gallwch ganslo’r datganiad yma unrhyw bryd drwy roi gwybod i’r elusen.
  • Os bydd eich amgylchiadau’n newid yn y dyfodol ac nad ydych bellach yn talu treth ar eich incwm na threth ar enillion cyfalaf sy’n gyfartal â’r dreth mae’r elusen yn ei hawlio’n ôl (esboniad uchod), gallwch ganslo eich datganiad.
  • Os ydych yn talu treth ar y gyfradd uwch, gallwch hawlio mwy o ostyngiad yn y dreth yn eich datganiad treth Hunan-Asesu.
  • Os nad ydych yn siwr a fydd modd cael gostyngiad treth Cymorth Rhodd ar gyfer eich rhoddion chi, gofynnwch i’r elusen - 03300 580845
  • Rhowch wybod i’r elusen os gwelwch yn dda os byddwch yn newid eich enw neu eich cyfeiriad.
 
 

Rhoi ar-lein

Rhoi Drwy Archeb Sefydlog

Os hoffech gyfrannu i Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn rheolaidd bob blwyddyn gallwch lenwi adran [C] – Archeb Sefydlog – isod. Gallwch gwblhau’r adran yma a yw adran [B] yn berthnasol i chi ai peidio. Gallwch ganslo hwn unrhyw bryd.


Edrychwch ar ein cyrsiau

Ymunwch â ni

Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu’n aelod – beth bynnag y dymunwch ei wneud, byddem wrth ein bodd eich bod yn rhan o’n gwaith.

Cysylltwch â ni
expand_less